Tudalen:Straeon y pentan.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y mae gwaethaf adrodd, oedd chwareuon ffol, megys rhedeg, neidio, prison bars, ymladdfeydd, ac ymladd ceiliogod. Er nad oedd neb o honom yn darllen papyr newydd, yr oeddym yn dyfod i wybod rywfodd am yr ymladdfeydd yn Lloegr a Chymru, ac mewn hanes yr oeddym mor gydnabyddus â Bendigo Caunt, Tipton Shlasser, Tom Sping, Welsh Jim, a Tom Cynah, ag ydyw bechgyn yr oes hon âg enwau Owen Thomas. John Thomas, a phregethwyr mawr eraill. Un gwylmabsant yr oedd miri mawr i fod yn Ninbech, ac yr oedd Wil Williams a minau er's wythnosau yn cynilo ein ceiniogau i fyn'd yno. Yr wyf yn cofio ein bod ein dau wedi cael dillad newydd, côt a gwasgod felfet, a chlos rhesog, ac hefyd watch a chadwen steel a sêl a chragen wrthi, a'n bod yn meddwl ein hunain yn gryn foneddigion. Dychymygem fod dagrau yn rhedeg, nid yn unig o lygaid, ond hefyd o ddanedd ein cyfoedion llai ffortunus. Y pryd hwnw yr oedd coach fawr yn rhedeg drwy Lanelwy i Ddinbech, ac oddiyno i'r Wyddgrug, ac oddiyno i Gaer. Bore y gwylmabsant yr oedd Wil Williams a minau, yn ddigon gorchestol mi goeliaf, er's amser yn Llanelwy yn disgwyl am y goach fawr, ac yn edrych ar ein