Tudalen:Straeon y pentan.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd pobl yn dweyd fod Richard Hughes, yr Hafod Lom, wedi gadael yn ei ewyllys olaf swm go dda o arian i Dafydd, y saer, ond wn i ddim oedd hyny yn wir. Ond mi wn hyn, na ddaru Dafydd byth garu neb arall ar ol colli Doli — mi fu farw yn hen lanc ac yn dda arno," ebe Fewyrth Edward.

Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog

PAID byth a chymeryd pobl wrth eu golwg, neu yr wyt yn lled debyg o gael dy siomi weithiau. Mae yna hen air Cymraeg, – 'Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.' Yr wyf yn cofio pan oeddwn yn las-hogyn yn byw efo nhad a mam yn Cefnmeiriadog, fod Wil Williams, mab y ffarm nesaf atom, a minau yn gyfeillion mawr; ac o herwydd fod ein rhieni mewn gwell amgylchiadau na rhai o'r ffermwyr tlodion oedd o'n cwmpas, ein bod yn meddwl tipyn o honom ein hunain. Mi glywi rywrai yn dweyd nad ydyw yr oes yn gwella dim. Lol i gyd; mae hi wedi gwella llawer. Prin y gwelid y pryd hwnw fachgen i ffermwr yn darllen llyfr da, os na fyddai ei fryd ar fyn'd yn bregethwr. Ein prif ddifyrwch yr adeg hono,