Tudalen:Straeon y pentan.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, neno dyn," ebe Thomos, "yfais i rioed ddyferyn o gwrw o big y tebot, na Marged chwaith," ac ni chwanegwyd y slander ar Thomos a'i wraig.

Ond am Richard Bonner yr oeddwn yn meddwl son wrthot ti heno, 'blaw mod i yn ramblo. Clywais ef yn pregethu fwy nag unwaith, ond yr oeddwn yn rhy ieuanc i dderbyn unrhyw argraff, ond yn unig ei fod yn ddyn ysmala. Clywais hefyd yn ddilynol ddegau o ystraeon digrif yn ei gylch, ond ar hyn o bryd nid oes ond dwy yn aros yn fy nghof. Y mae i'r Wesleyaid gapel a elwir Tafarn y Celyn, neu fel y seinir ef ar dafod gwlad Tafarn gelyn, mangre ar y ffordd o'r Wyddgrug i Lanarmon. Ar un adeg yr oedd hen wreigan ffyddlon a duwiol iawn o'r enw Begws yn aelod dichllynaidd yn nghapel Tafarn-gelyn. Tlawd oedd ei hamgylchiadau, a derbyniai yr hen wreigan ychydig elusen plwy. Ar hyd y blynyddau cadwai Begws fochyn, a phan ddeuai yn hyn a hyn o faint gwerthai ef i dalu rhent ei bwthyn. Ond un tro darfu i ryw ysgerbwd o ddyn ladrata mochyn Begws, yr hyn a fu yn brofedigaeth fawr iddi. Teimlai yr eglwys yn Tafarn-gelyn yn dost dros yr hen wreigan yn