Tudalen:Straeon y pentan.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ngwyneb ei cholled, a phenderfynasant, yn gristionogol ddigon, wneud casgliad iddi yn yr oedfa nos Sabboth. Richard Bonner oedd i bregethu noswaith y casgliad, a gofynodd y blaenoriaid iddo ddweyd gair ar yr amgylchiad, oblegid yr oeddynt yn awyddus i ddigolledu yr hen Begws druan, ac ebe Bonner cyn i'r casglyddion fyn'd o gwmpas, —

Wel, gyfeillion, yr ydan ni i gyd yn nabod Begws — does ganddi ddim yn spâr ag iddi gael llonydd gan chiwladron, a mi wn y rhoiff pob un gymaint ag a fedr o yn y casgliad hwn ond y dyn a ddygodd fochyn y greadures dlawd. Mi ellwch fod yn siwr na roiff y dyn a ddygodd y mochyn ddim dimai ar y plât!"

Cyfranodd pob enaid rhag iddo gael ei dybied yn euog o ladrata mochyn Begws, ą, chafodd yr hen wraig fwy nag a gollasai.

Yr oedd Richard Bonner yn wr cryf a chadarn, a mi wyddost pan fo gweinidog Wesleyaidd wedi teithio am nifer penodol o flynyddau yn y weinidogaeth fod ganddo hawl i osod ei hun ar restr yr uwchrif, sef yw hyny, ymryddhau oddiwrth ofalon cylchdaith. Yr oedd yr hen Fonner wedi gwasanaethu yn ffyddlon am y cyfnod angenrheidiol, ac mewn