Tudalen:Straeon y pentan.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bethau. Bychan oedd y busnes yn y siop, ond tybid fod James uwchlaw anghen. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am hir amser, ac yr oeddwn inau yn bur gyfeillgar efo James ac yn myn'd i'w siop yrwan ac yn y man, ond nid oeddwn erioed wedi gofyn iddo am eglurhad ar ei ymadawiad â Llundain, oblegyd gwyddwn ei fod wedi gwrthod egluro i amryw. Yr oeddwn yn ei siop un noson pan oedd yr hogyn yn rhoi y shutters i fyny, ac, am y tro cyntaf er pan ddaeth yn ol, gwahoddodd fi i'r tŷ. Yr oeddym yn hen ffrindiau, a "ti" "tithau" y byddem yn galw ein gilydd. Wedi ymgoinio tipyn am yr hen amser, mentrais ofyn iddo beth barodd iddo roi y weinidogaeth i fyny. Edrychodd arnaf fel pe buaswn wedi ei saethu, yna gosododd ei ben rhwng ei ddwylaw ar y bwrdd ac wylodd yn hidl. Gwelais fy mod wedi ei friwio, ac edifarheais ofyn y cwestiwn. Wedi iddo adfeddianu ei hun, atebodd fel hyn, hyd y gallaf gofio, —

"Edward, yr wyt ti a minau yn hen gyfeillion, a mi wn, ond i mi ofyn i ti, na wnei di ddim ail-adrodd yr hyn 'rwyf yn mynd i'w ddweyd, tra byddaf fi byw, gwna fel y mynot wed'yn. Rhag i ti feddwl ei fod yn rhywbeth gwaeth, dyma yr hanes i ti yn fyr. Gwyddost i mi gael