Tudalen:Straeon y pentan.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy sefydlu ar eglwys led gref yn Llundain. Ar y dechreu yr oeddwn yn bur bryderus a oedd gen i ddigon o adnoddau ar gyfer y gwaith. Gweithiais yn galed a diflino yn hwyr ac yn fore, ac yn y man teimlais fod Duw yn fy mendithio ac yn arddel fy llafur. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yno chwech o ddiaconiaid — dynion da a grasol, hawdd byw gyda hwy, ac yr oeddym yn gallu cyd-weithio yn rhagorol. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am flynyddoedd heb un hitch. Yn perthyn i'm heglwys yr oedd hen ferch — pe buasai yn hen hefyd, nid oedd fawr hŷn na minau – gyfoethog a dylanwadol. Yr oedd y ferch hon yn bobpeth ond prydferth. Ystyrid hi yr un fwyaf crefyddol o bawb o honom — ni byddai byth yn colli moddion y Sabboth na chanol yr wythnos. Ymwelai yn gyson â'r tlodion, ac yr oedd yn haner cadw rhai o honynt. Hi oedd ein Dorcas. Cyfranai at y weinidogaeth ac at achosion eraill gymaint a dwsin o'r rhai mwyaf haelionus, ac nid oedd terfyn ar ei charedigrwydd i mi, y gweinidog. Heblaw hyny, yr oedd wedi cael addysg dda, ac yn un hynod ddeallgar. Hawdd i ti gredu fod ei dylanwad yn yr eglwys yn fawr. Yn wir, ni byddem yn