Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymysg Sosiniaid.[1] Yr oeddwn yn byw yn y coleg, ac yr oedd gennyf ystafell braf, yn edrych ar y castell ac ar y brif fynedfa i'r Coleg. Pan dalodd fy nghyfaill o'r De ei ymweliad cyntaf â mi, dechreuais ddangos iddo mor hyfryd oedd fy lle. Torrodd ar f'ysgwrs yn sydyn fel hyn, — " Gyfaill, 'rych chwi newydd ddod o'r Gogledd, ac yr ydych yn ffwl.'R ych chwi'n meddwl eich bod mewn lle hyfryd 'nawr; ond fase waeth i chwi fod wedi nythu ar ben llosgfynydd. Oni wyddoch chwi fod Sosin yn yr ystafell oddi tanoch? Daliwch chwi ar hyn, fydd eich mam ddim yn eich nabod pan ewch adre. Gan edrych arnaf yn dosturiol, fel pe buaswn yn hanner coll yn barod, gadawodd fi; ac yr oeddwn yn anedwydd iawn. Ond cyn hir, tra'n synfyfyrio ar gyflwr dybryd yr anuniongred, clywn seiniau nefolaidd yn esgyn o'r ystafell odditanaf. Yr oedd y Sosin yn canu " Toriad y Dydd " ar ei grwth. Dyma fy hoff alaw; a chyn hir gwelai'r Undodwr wyneb gwelw ymofyngar yn ei ddrws hanner agored. Yr oedd yn wr mwyn ryfeddol, a chanodd lawer alaw i mi. Dywedai ei fod yn dod o ardd Cymru; a phan fynwn i mai Dyffryn Clwyd oedd honno, atebodd gyda gwên benderfynol,— "Na, sir Benfro yw gardd Cymru. Cewch weld pan ddeuwch gyda mi yno."

Ni fuasai gennyf erioed fawr o amheuaeth am ben draw ffordd yr Undodwr, ond nid oeddwn wedi talu fawr o sylw i natur y lle. Ni ddywedasai fy nhad fawr am dano; ond llawer gwaith y arluniodd y Lle yr oeddym ni Fethodistiaid yn cyrchu ato, — gwlad y delyn a'r palmydd, gwlad tragwyddol Doriad Dydd.

  1. Undodiaid