PLU'R GWEUNYDD
Ychydig sy'n cofio haf mor ogoneddus a'r haf sy'n awr yn cilio i fysg hen hafau ein bywyd. Haf goludog heulog ar y mynyddoedd,—beth sy'n well darlun o'r nefoedd na hynny?
Yn ystod ei ddyddiau euraidd hyfryd, gwnaeth haf eleni un gymwynas neilltuol â mi. Gwnaeth Gymru oll yn brydferth i'm golwg. Cyn hynny, yr oedd un llecyn nad oeddwn wedi gweled ei brydferthwch. Yr oedd yn rhaid i mi fyned heibio iddo droeon bob blwyddyn, bodd neu anfodd. Deuai iasau oerion drwof wrth feddwl am dano. Eto nid oeddwn wedi cwyno wrth neb fod un llecyn, yng nghanol Cymru, mor hagr i'm llygaid fel yr ofnwn edrych ymlaen at yr adeg y byddai raid i mi fynd heibio. Yr oedd cyfeillion i mi'n mynd heibio'n amlach na mi; ond ni chlywais hwy'n cwyno erioed. Y mae un o hen ysgolion enwocaf Cymru'n edrych i lawr ar y llecyn gashawn, ond ni lethwyd athrylith ei hysgolheigion gan ddwyster trymaidd yr olygfa. Bu rhai o feirdd mwyaf melodaidd Cymru yn byw ar ei ymylon, ond ni ddistawyd eu hawen hwy ac ni oerwyd eu gwladgarwch gan drem oerllyd y lle. A dyma finnau'n teimlo'm gwaed yn fferru, a'm meddwl yn crebachu, a phob teimlad gwladgarol yn oeri, wrth fynd heibio. Cors goch glan Teifi oedd y fan.
O orsaf Ystrad Fflur i orsaf Tregaron rhed y ffordd haearn dros gyrrau neu hyd finion cors am dros bum milltir o ffordd. Ar y chwith, wrth deithio tua'r de. ceir y mynyddoedd eang.—Berwyn canolbarth Cymru,—sy'n gwahanu dyffryn