Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y man ar ysplander ei chyfoeth. Yr hen athraw tal, llygadlon, difyr, — tawel fo ei hun yntau, wedi ei oes hir gyda geiriadur a gramadeg, yn hoffus dyffryn Dyfi.

Yr oedd Albanwr bychan, bywiog, ac athiylithgar yn darlithio i ni ar lenyddiaeth Seisnig; ac yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf hoffus a gyfarfyddais erioed. Wrth gydmaru llenyddiaeth Gymreig a Llenyddiaeth Saesnig â'u gilydd yr oedd y ddwy yn dod yn fwy dyddorol, ac yn hawdd eu deall.

Yr oedd athraw arall, Almaenwr o genedl, yn darlithio ar lenyddiaeth Ffrengig, a gwnaeth oes a meddyliau cyfnod aur Ffrainc yn fyw iawn i ni. Ond rhaid i mi beidio dechreu enwi. Yn unig dywedaf fod coleg cenhedlaethol cyntaf Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei athrawon. Yr oedd ganddynt gyfandiroedd newydd i'w dangos i ni; ac yr oedd arnom syched am wybodaeth.

Mae gennyf adgofion melus am Aberystwyth, — am lan y môr, am Goed y Cwm, am sŵn rhegen yr ŷd ddeuai gydag arogl bêr y gwair dros y dref i fy ffenestr yn nyfnder nos, pan oedd y Coleg yn cysgu a minnau'n ceisio ennill gwybodaeth. Ni chollais ddim o gred fy mebyd, ni chollais ddim ohoni eto; y mae digon o newydd-deb bythol ynddi i mi dreulio fy mywyd i weled agweddau newyddion arni. Ond deallais y gall gwyr o gredo arall feddu bywyd pur, a gwneyd gwaith arwrol, a gweled Duw. Y mae hyn wedi llenwi'm bywyd a dedwyddwch, a'r byd yr wyf ynddo â daioni. (—Clych Atgof)