Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Aberystwyth

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Bala Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards
Rhydychen

ABERYSTWYTH.


OS oedd ambell efrydydd yn Aberystwyth a'i syniadau mor gul a mi, nid oedd yno yr un a'i anwybodaeth mor eang a dwfn. Tybiwn fod Tori yn agwedd anhygar ar yr un drwg, ac mai rhinwedd wedi cymeryd gwisg o gnawd oedd Rhyddfrydwr. Os credwn rywbeth yn fwy na hynny, dyma oedd, — mai y Methodistiaid Calfinaidd yw balen y ddaear, ac mai hwy oedd yr unig bobl y gellid dweyd am danynt i sicrwydd eu bod ar y llwybr cul i'r nef. Gwrandewch pa fodd yr ymdarewais ymysg pob math o fechgyn y taflwyd fi i'w canol.

Wedi'r arholiad, cefais fy hun yn crwydro'n rhydd ar Rodfa'r Môr, ar ddydd hyfryd ym Medi. Anghofiais am ennyd mai nid yng Ngogledd Cymru yr oeddwn, a theimlais mai dyma'r lle mwyaf gogoneddus a welais erioed. Cyfaddefais hyn, mewn hanner angof, wrth efrydydd o Randir Mwyn yr oeddwn newydd gael dadl dynn ag ef am ragoriaethau cymharol De a Gogledd. "Odi," meddai, " nid yn unig y mae Rhagluniaeth wedi bendithio'r Deheudir â golygfeydd harddach, ond hefyd â iaith fwy perffaith ac â merched mwy hardd." Er pryder yr arholiad, yr oeddwn yn barod wedi syrthio mewn cariad ag un o ferched llygatddu'r De, ac ni fedrwn ond ymboeni'n ddistaw wrth i'm cydymaith ymosod ar y Gogledd. Ond yr oedd yn Fethodist, a'i wyneb ar y wir weinidogaeth, ac yr oedd yn haws maddeu iddo.

Ond bu'n galetach arnaf na hyn. Rhaid i mi ddweyd wrthych imi syrthio, nid o'm bodd, ymysg Sosiniaid. Yr oeddwn yn byw yn y coleg, ac yr oedd gennyf ystafell braf, yn edrych ar y castell ac ar y brif fynedfa i'r Coleg. Pan dalodd fy nghyfaill o'r De ei ymweliad cyntaf â mi, dechreuais ddangos iddo mor hyfryd oedd fy lle. Torrodd ar f'ysgwrs yn sydyn fel hyn, — " Gyfaill, 'rych chwi newydd ddod o'r Gogledd, ac yr ydych yn ffwl.'R ych chwi'n meddwl eich bod mewn lle hyfryd 'nawr; ond fase waeth i chwi fod wedi nythu ar ben llosgfynydd. Oni wyddoch chwi fod Sosin yn yr ystafell oddi tanoch? Daliwch chwi ar hyn, fydd eich mam ddim yn eich nabod pan ewch adre. Gan edrych arnaf yn dosturiol, fel pe buaswn yn hanner coll yn barod, gadawodd fi; ac yr oeddwn yn anedwydd iawn. Ond cyn hir, tra'n synfyfyrio ar gyflwr dybryd yr anuniongred, clywn seiniau nefolaidd yn esgyn o'r ystafell odditanaf. Yr oedd y Sosin yn canu " Toriad y Dydd " ar ei grwth. Dyma fy hoff alaw; a chyn hir gwelai'r Undodwr wyneb gwelw ymofyngar yn ei ddrws hanner agored. Yr oedd yn wr mwyn ryfeddol, a chanodd lawer alaw i mi. Dywedai ei fod yn dod o ardd Cymru; a phan fynwn i mai Dyffryn Clwyd oedd honno, atebodd gyda gwên benderfynol,— "Na, sir Benfro yw gardd Cymru. Cewch weld pan ddeuwch gyda mi yno."

Ni fuasai gennyf erioed fawr o amheuaeth am ben draw ffordd yr Undodwr, ond nid oeddwn wedi talu fawr o sylw i natur y lle. Ni ddywedasai fy nhad fawr am dano; ond llawer gwaith y arluniodd y Lle yr oeddym ni Fethodistiaid yn cyrchu ato, — gwlad y delyn a'r palmydd, gwlad tragwyddol Doriad Dydd.

Ond yr oedd arnaf awydd yn awr am wybod am y lle arall hwnnw. Drannoeth eis i'r llyfrgell, i chwilio am lyfr ar y pwnc. Gwelais The Epic of Hades, gan Lewis Morris, llyfr newydd ei gyhoeddi. Clywswn lawer gwaith i Lewis Morris Mon i Feirion ganu'n fore; ond ni wyddwn o'r blaen ei fod yn awdurdod ar dduwinyddiaeth hefyd. Eis a'r llyfr i'm hystafell, ac ymgollais ynddo yn llwyr. Gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd y chwarelwr am Shakespeare, — "Wyddwn i erioed fod dim cystal wedi ei ysgrifennu yn Saesneg." Ond nid oedd yn hollol,ar y pwnc.

Tra'r oeddwn yn darllen yr Epic, ac yn graddol anghofio tynged fy nghyfaill newydd a'i grwth, dyma gnoc ar y drws. Daeth Prifathraw'r coleg i mewn. "Yr wyf wedi dod a Mr. Lewis Morris i weled eich ystafell," meddai. Yr oedd arnaf awydd angerddol am ofyn i awdwr y Ilyfr, — gwyddwn y rhaid ei fod wedi astudio daearyddiaeth y fro honno'n drylwyr, — beth oedd ei feddwl am y nos yr oedd yr Undodwr yn rhuthro iddi, er cystal y medrai chwareu "Toriad y Dydd." Ond tybiwn na buasai bardd mor fawr yn hoffi son am ei waith ei hun; a danghosais iddo y darluniau oedd gennyf ar fy muriau, — pob un wedi ei sicrhau wrth y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth ei resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o Gristion.

Treuliais lawer o'm hamser ar Rodfa'r Môr. Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded yn ol a blaen; a medrais dynnu sgwrs â hwn hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn mai gwaith person ar y Sul oedd melldithio dadgysylltwyr a bendithio'r stiward; ac mai ei waith yn yr wythnos oedd darganfod melldithion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas. Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly. Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd ei feddwl yn llawn o'r hyn sy'n darawiadol yn hanes y byd, a chanddo ef y clywais i am Hanes a Rhydychen.

Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer. Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oeddynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol, — sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn, cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.

Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Yr un fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ychydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd Cymraeg yn talu yn yr un arholiad yr adeg honno. Cyfarfyddem ef yn ei ystafell ei hun, a darlleneni ryw awdwr fel y Bardd Cwsg neu Theophilus Evans gyda'n gilydd o gylch ei fwrdd. Gwnaeth i ni gymeryd dyddordeb yng ngeiriau yr iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Danghosodd i ni fod gogoniant lle y tybiasom nad oedd ond gerwindeb gwerinol o'r blaen. O dipyn i beth dechreuasom hoffi llenyddiaeth Gymreig; cawsom gipolwg yn awr ac yn y man ar ysplander ei chyfoeth. Yr hen athraw tal, llygadlon, difyr, — tawel fo ei hun yntau, wedi ei oes hir gyda geiriadur a gramadeg, yn hoffus dyffryn Dyfi.


Yr oedd Albanwr bychan, bywiog, ac athiylithgar yn darlithio i ni ar lenyddiaeth Seisnig; ac yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf hoffus a gyfarfyddais erioed. Wrth gydmaru llenyddiaeth Gymreig a Llenyddiaeth Saesnig â'u gilydd yr oedd y ddwy yn dod yn fwy dyddorol, ac yn hawdd eu deall.

Yr oedd athraw arall, Almaenwr o genedl, yn darlithio ar lenyddiaeth Ffrengig, a gwnaeth oes a meddyliau cyfnod aur Ffrainc yn fyw iawn i ni. Ond rhaid i mi beidio dechreu enwi. Yn unig dywedaf fod coleg cenhedlaethol cyntaf Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei athrawon. Yr oedd ganddynt gyfandiroedd newydd i'w dangos i ni; ac yr oedd arnom syched am wybodaeth.

Mae gennyf adgofion melus am Aberystwyth, — am lan y môr, am Goed y Cwm, am swn rhegen yr yd ddeuai gydag arogl bêr y gwair dros y dref i fy ffenestr yn nyfnder nos, pan oedd y Coleg yn cysgu a minnau'n ceisio ennill gwybodaeth. Ni chollais ddim o gred fy mebyd, ni chollais ddim ohoni eto; y mae digon o newydd-deb bythol ynddi i mi dreulio fy mywyd i weled agweddau newyddion arni. Ond deallais y gall gwyr o gredo arall feddu bywyd pur, a gwneyd gwaith arwrol, a gweled Duw. Y mae hyn wedi llenwi'm bywyd a dedwyddwch, a'r byd yr wyf ynddo â daioni.