Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Y Bala

Oddi ar Wicidestun
Fy Nhad Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards

Aberystwyth

Y BALA.

Y BALA.


"A THITHAU Bethlehem, tir Juda, nid -lleiaf wyt ymhlith tywysogion Juda," — am lawer lle bychan, ar ryw gyfrif neu gilydd, medrir dweyd y geiriau hyn. Tybir yn aml mai lliosogrwydd ei threfydd mawrion yw cyfoeth gwlad, lle mae peiriannau yn fwy pwysig nag eneidiau; ond gwir olud gwlad yw y lleoedd bychain fu'n gartref ei dysgawdwyr ac yn fagwrle ei meddwl. Nid oes yn y Bala weithfeydd na masnach brysur, nid oes fŵg rhyngddi a'r nefoedd ac nid oes na huddugl na pharddu ar ei heolydd. Ni chodwyd cri am dorri'r coed cysgodol sy'n tyfu ar ei heolydd er mwyn i olwynion masnach brysuro drwyddi. Nid oes weithfeydd i lenwi'r aberoedd â duwch ac â gwenwyn, y mae'r Tryweryn a'r Ddyfrdwy fel y grisial, a Llyn Tegid fel môr o wydr. Ond nid ydyw'r Bala yn anenwog er hynny. Draw, ar fin y llyn, dan yw sy'n dduon ac yn dawel fel y nos, gorwedd llu o gedyrn. Yn eu mysg y mae Simon Llwyd, Charles o'r Bala, Tegidon, Dr. Edwards, Dr. Parry, a loan Pedr.

Pan ddaw'r ymdeithydd i fyny tua'r Bala o ddyffryn Edeyrnion, daw gan dybied, y mae'n debyg, na fedr byth weled lle mor dlws a'r Llangollen y mae newydd adael ar ei ol. Ond gwêl fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, ac nid yr un yw prydferthwch ardaloedd y Bala a phrydferthwch y cymoedd sydd o amgylch Llangollen. Y mae'r golygfeydd hyn yn fwy mynyddig, ac y mae'r lliwiau'n wannach, — ond nid yn llai prydferth er hynny. Y mae pob peth yn wylltach, a disgwyliwn glywed y gorncohwiglen uwch ein pen, ac nid eos mewn llwyn gerllaw.

Ddarllennydd, a ddoi di am dro i'r Bala ? Medraf dy sicrhau na fydd yn edifar gennyt, er nad oes iti ond un dydd gwyl yn y flwyddyn, os wyt y peth yr wyf fi wedi arfer meddwl dy fod. Y mae llawer ffordd i fynd i'r Bala, — i lawr o Ddolgellau gyda minion y llyn, dros yr Arennig unig ac i lawr gydag afon Tryweryn, dros y mynydd o sir Drefaldwyn a thrwy Aberhirnant ramantus, neu i fyny ar hyd dyffryn y Ddyfrdwy. Gelli gael tren bob ffordd ond trwy Aberhirnant.

Gwell i ni ddod i fyny dyffryn y Ddyfrdwy hwyrach; a dywed ein bod yn cyflymu heibio i Grogen cyn wyth o'r gloch ar fore haf. Dyma ddyffryn gweddol eang o'n blaen, ac ar yr olwg gyntaf y mae'n anodd dweyd pa un ai dôl ai rhosdir ydyw. Dacw bantle ar ein chwith, dy- wed traddodiad mai dyna gartref olaf Llywarch Hen, a "Phabell Llywarch Hen" y gelwir y llecyn ar lafar gwlad. Dros y Ddyfrdwy sy'n ymddolennu'n araf drwy'r dyffryn gwastad. dacw dŵr ysgwar eglwys Lanfor. Acw, medd traddodiad eto, y claddwyd Llywarch Hen. Dyma ni'n prysuro i fyny hyd lan yr afon, a'r gwastadedd ar ein de. Gwelwn mai dolydd gweiriog ydyw, llawn o feillion, ond dengys yr hesg sy'n tyfu gyda'i ymylon fod yr afon yn codi dros rannau o hono ambell dro.

Saif y tren ar gwrr y gwastadedd. Gwelwn binaclau'r Bala, — ac y mae yno ddau binacl neu dri, — draw wrth draed y bryniau sy'n ymgodi, fel caer uwch gaer, tua chrib las yr Arennig. O'r gyffordd, ail gychwynnwn tua'r dref, yn nhren Ffestiniog. Ar y chwith wrth fyned dyna olygfa wna i ni deimlo ar unwaith fod digon o fwynhad o'n blaenau yn y wlad dawel hon, oherwydd wele lyn Tegid, a'r Aran yn edrych ar ei llun ynddo.

Cyn i ni gael ond cipolwg ar yr olygfa y mae'r tren wedi cyrraedd gorsaf flodeuog, ac wedi sefyll. Ddarllennydd, yr ydym ar "Green y Bala." Y mae gorsaf ffordd haearn wedi ei gosod arni heddyw. Beth ydyw cysegredigrwydd adgofon hanes i gwmni ffordd haearn? Mwyn iddynt hwy fuasai cymeryd cerrig cestyll y canol-oesoedd i wneyd pontydd, — ni fu ond ychydig rhyngddynt a dinistrio Castell Conwy i wneyd arglawdd neu bont. Mwyn iddynt hwy fuasai toddi hen arfau haearn amgueddfeydd y byd, a'u gwneyd yn beiriant i gludo pleserwyr i'w gwyliau Nadolig. Ie, ni synnwn pe cynhygient fod esgyrn y saint i'w gwneyd yn chwi- banoglau i'r gyriedyddion.

Ond nid yw y Green yn orsaf i gyd. Y mae llain o dir rhyngddi a'r Tryweryn sy'n murmur yn ddedwydd wrth ddawnsio dros gerrig crynion glân ar ei ffordd i'r Ddyfrdwy. A'r ochr arall, rhyngddi a'r dre, erys y llecyn lle cynhelid sasiynau enwog y Bala yn y dyddiau fu. Y mae prydferthwch yn perthyn i'r Green ar wahan i'r adgofìon sydd ynglyn a hi. Y mae'r Domen, — beddrod aruthrol neu wylfa, — yn edrychi lawr arni; y mae bryniau prydferth fel pe heb dynnu eu trem oddiarni byth er pan glywid sain gorfoledd oddiwrth ei thyrfaoedd; a thros ei gwyneb gwyrdd gwelir Llyn Tegid, weithiau'n las a thawel, dro arall yn donnau brigwyn carlamus.

Beth amser yn ol, danghosodd cyfaill i mi ddarlun o sasiwn ar y Green; nis gwn gwaith pwy oedd, ond dywedid ar ei waelod y cyhoeddid ef yn 1820 gan S. Evans, Llansantffraid. Nid ydyw yn rhoi syniad rhy gywir am y sasiynau, fel y gwelais i hwy. Y mae'n anodd meddwl fod cymaint o segurwyr difraw ar ymylon y dorf tra y mae John Elias neu John Jones Talysarn neu William Roberts Amlwch neu John Evans Llwynffortun neu Ebenezer Morris Tŵr Gwyn yn y pulpud.

Y mae Huw Alyfyr wedi tynnu cywirach darlun yn ei gân, —

"Fel aeddfed faes o liaidd
Ymdonnai'r dyrfa,
-Mewn dwyfol nefolaidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pan chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf
O ben Calfaria."


Llawer tro y bu awel yn gwasgaru peraroglau o ardd yr Anwylyd dros eneidiau deffroedig ar y llecyn hwn, fel y mae awel hafaidd dyner yn crwydi'o o gymoedd yr Aran dros y llyn heddyw; ac y mae llawer hen bererin yn barod i gredu mai, o holl lecynnau Cymru, "yr olaf roir i'r tân fydd Green y Bala."

Ond y mae awyr adfywiol y bore'n rhoi awydd crwydro ynnom, a cherddwn yn gyflym tua'r dre. Yr adeilad cyntaf y down ato ydyw'r Ysgol Ramadegol. Y mae hon yn llechu dan gysgod y Domen, ac "Ysgol Ty tan Domen" y gelwir hi gan hen bobl. Y mae'n adeilad bychan destlus, a golwg ysgol arni. Dacw'r cyntedd o'i blaen, a'r coed fu'n cysgodi llawer cenhedlaeth efrydwyr gramadeg Lladin, a'r gloch. Dacw'r arwydd-air, hefyd, wedi ei dorri mewn carreg felen, — "Heb Dduw, heb ddim." Ysgol rad oedd, i fechgyn tlodion; ond erbyn hyn nid oes addysg rad ynddi, ac y mae ei breintiau erbyn heddyw o gyrraedd plentyn y gweithiwr.[1] Nis gwn beth oedd y Domen uchel sydd wrth gefn yr ysgol, — y mae bron yn sicr mai gwaith celfyddydol ydyw. O'i phen ceir golygfa brydferth iawn, ond anaml y gwelir y trefwyr yn dringo ei hochrau. Bu'n rhydd; mewn hen ddarluniadau o'r Bala, cawn wŷr a gwragedd yn gwau ar nawnddydd haf ar ei hochrau ac ar ei phen; erbyn hyn y mae wedi ei chau, a'i hochrau wedi eu harddurno â choed byth-wyrdd. Wedi gadael yr ysgol dyma " Stryd Fawr " y Bala yn ymagor o'n blaenau, Ar y chwith y mae pen y stryd gefn, ac ar y dde y mae'r ffordd yn arwain at y ddau goleg. Gwelwn goleg y Methodistiaid, adeilad hardd ar fryn; ac y mae coleg yr Anibynwyr am y ffordd ag ef, ond nid yn y golwg.[2] Y mae enwau ereill ar y stryd- oedd erbyn hyn, "High Street" byth a hefyd ; ond nid oes i'r enwau Saesneg le ond ar bren ac ar bapur, ar filiau ac ar adroddiadau cymdeithasau dyngarol. "Y Stryd Fawr," "y Groes," a'r "Stryd Fach" yw'r enwau arferedig. A buasid yn disgwyl gweled enwau Cymraeg ar ystrydoedd y Bala, yn anad un man. Nid oes rhyw lawer o bobl ar y stryd. Y mae'r bore tlws yn ymloewi o hyd, ond y mae'n amlwg mai lle tawel iawn ydyw'r Bala, ond ar ddiwrnod sasiwn. Ar yr ystryd dacw un gŵr yn dod. Y mae ffon yn ei law, ac y mae'n pwyso arni, er mai prin y gellir tybio ei fod yn gloff. Y mae het lwyd uchel, a golwg fonheddig arni, ar ei ben; y mae lliw goleu prydferth ar ei ddiliad, dillad wedi eu lliwio yn yr hen fíasiwn â çhen cerrig; ac y mae'n gwisgo clos pen glin, sanau bach, ac esgidiau isel.

" Helo, dyma un o hen wŷr bonheddig hen Gymru."

" Ie, yn sicr. A gwyn fyd na chaem ychwaneg o wŷr bonheddig tebyg iddo."

" Clywais ddweyd eich bod chwi'n credu mewn boneddigion. Ond gwerinwr, cofiwch, wyf fi."

"Gwerinwr wyf finnau, i'r carn. Ond 'pe caem foneddigion fel hyn, boneddigion fel llawer hen foneddwr yn y dyddiau fu, credwn ynddynt. Clywais un o dirfeddianwyr mwyaf yr Iwerddon yn dweyd yn ddiweddar na chredai un gair ddywedai ei Wyddelod wrtho. Nid wyf yn credu fod gan hwnnw hawl i fyw ar draul y wlad nad yw'n gwneyd dim ond ei sarhau. Ond dacw i chwi hen fonheddwr y mae'r Beibl yn rheol ei fywyd, ac un sy'n credu yn nyfodol gwerin Cymru."

" A fyddai'n well i ni dreio tynnu ysgwrs ag ef?"

Yr oeddwn wedi clywed Anibynnwr Cyfansoddiad Newydd yn dweyd am ymgom a gafodd unwaith ag ef yn y tren. Yr oedd y gŵr hwnnw'n teithio tua'r Bala, a dyma'r holl ysgwrs a fu rhyngddo â gŵr dieithr iddo a eistedd ai ar ei gyfer, —

" Pwy ddrwg mae Michael yn wneyd yrwan?"

" Y fi yw Michael,'nawr."

Ond dyma Fichael D. Jones, blaen-filwr y deffroad Cymreig yn ei holl agweddau, o fewn hyd ffon inni. Dechreuasom siarad ag ef, a chyn pen ychydig o funudau gwelsom fod ei grefydd a'i gariad at Gymru megis yn un. Holai ni beth oeddym yn wneyd dros Gymru gydag awch a phryder; ac wrth ein gadael gwnaeth inni addaw bod ym Modiwan rhwng hanner dydd ac un, gan fod arno eisiau siarad â ni. Symudasom ymlaen ar hyd yr heol, a safasom eto cyn hir i syllu ar y rhes o goed sy'n tyfu hyd ei hymyl, ymron o'r naill ben i'r llall. Hwy yw prydferthwch a neillduolrwydd tref y Bala. Ni fedd adeilad o un pwys na phrydferthwch yn ei phrif heol, — y mae ei Neuadd Drefol yn debycach i garchar nag i ddim arall. "Beth yw'r adeilad acw?" meddem wrth ddyn cloff gwallt-goch oedd yn ceisio gwerthu papur newydd dimai i ni. "Y Loc Yp," ebe yntau am brif adeilad y Bala. Gofynasom a oedd yno siop lyfrau. Danghosodd yntau un, ond teganau a photograffiau oedd y prif nwyddau yn y ffenestr. Gofynasom a oedd yno lyfrfa, ond ni wyddai dyn y papur newydd beth oedd hynny. Gofynasom wedyn a oedd yno gymdeithas lenyddol, gan ein bod wedi clywed llawer o son am lenorion y Bala, a dywedodd yntau fod cymdeithas wedi bod, ond ni wyddai ychwaneg am dani na fod ganddi ginio mawr y nos o flaen y Nadolig, a'i bod yn galw'r White Lion yn " Westy Brenhinol y Llew Gwyn."

Yn edrych arnom o ffenestr fawr ger llaw yr oedd gŵr tal, hawdd gwybod mai meddyg oedd, a hanner chwilfrydedd, hanner direidi yn ei lygaid. Yr oedd wedi fy adnabod i, — yr oedd wedi trafaelio llawer, — a chnociodd y ffenestr arnom. Daeth allan i'n cyfarfod, a bu yn gwmni diddan i ni at awr neu ddwy. Yr oedd ganddo ystôr ddiderfyn o ystraeon, oherwydd yr oedd ei brofiad yn eang, ac yr oedd ganddo lygad i ganfod y digrif a'r difyr. Danghosodd brif leoedd y Bala inni, ac yr oedd ystori yn dilyn bron bob lle. Dywedodd ein bod yn sefyll flaen hen siop ac argraffdy Saunderson, a chartref Siarl Wyn o Benllyn. Gwelsom gapel yr Anibynwyr ar ben ystryd groes, ac yna aethom ymlaen dan y coed at y Groes Fawr. Newydd adael hon troisom ar y chwith ar hyd yr Ystryd Fach. Toc daethom at ysgwar fechan. Ar y naill ochr gwelem gapel y Methodistiaid, a chofgolofn Charles o'r Bala o'i flaen. Yr oedd ychydig o blant yn chware ar y bore tlws o flaen y gofgolofn; a phan ddaethom atynt safasant i edrych arnom mor lonydd a'r plant bach cerfiedig oedd ar y gofgolofn. Dyma lecyn cysegredig yn hanes yr Ysgol Sul. Yr oedd gan y meddyg lawer ystori i'w dweyd am yr hen gapel a'i bregethwyr, ond prin yr oedd ei ddawn diddan'yn raeddu digon o swyn i dynnu fy meddwl oddiwrth y gwaith mawr wnaed yma dros Gymru drwy'r Ysgol Sul. Yn y cerfddarlun, — o waith Mynorydd, — saif Charles ar ei draed, a Beibl yn ei law. Nid cau ei ddwrn ar y Beibl a herio'r byd, fel cof-golofn Luther yn Worms, a wna; y mae'n debyg iawn i'r Diwygiad Cymreig, — yn dawel, yn addfwyn, yn cynnyg y Beibl fel balm i bob clwy. Ar waelod y golofn y mae darlun o Ysgol Sul Gymreig, a phob oed ynddi. Y mae'r llyn yn gorwedd heddyw heb gymaint a chrychni ar ei wyneb; y mae Allt Ty'n y Bryn, gyda'i rhodfeydd coediog, yn edrych i lawr yn dawel ar hen dref yr Ysgol Sul; y mae Charles a Dafydd Cadwalad yn gorwedd dan yr ywen yn Llanecil draw, — ond y mae'r Beibl yn gweithio'n rymus yng Nghymru o hyd. Y mae rhywbeth yn y Bala i'n hadgofio am y Beibl i ba le bynnag y trown. Yr oohr arall i'r ffordd, dacw Blas yn Dre, yng nghanol gerddi, gyda chae gwyrdd rhyngddo a'r llyn. Plas yn Dre oedd cartref Simon Lloyd, awdwr " Amseryddiaeth y Beibl."Wedi troi'n ol ar hyd y Stryd Bach a chyrraedd y Groes eilwaith, dyma ni wrth dŷ Charles o'r Bala. At hwn, lawer blwyddyn yn ol, y daeth geneth fach flinedig, ar fin yr hwyr, wedi cerdded bob cam o Lanfihangel y Pennant i chwilio am Feibl. Daw darlunydd, hwyrach, i'w dangos yn dod at ddrws gŵr y Beiblau yn blygeiniol, gyda hen bregethwr yn arweinydd iddi. Bu ei hawydd hi am Air y Bywyd yn foddion i gyflenwi awydd miloedd y tu allan i Gymru.

Gadawsom gysgod y coed, ac wedi pasio capel bychan y Bedyddwyr a'r hen "dyrpeg," dyma ni "yn y wlad" chwedl pobl y Bala. Yr adeilad diweddaf inni adael ar ein holau ydyw y Victoria Hall, a godwyd er cof am jubili'r frenhines, ac ni welwyd hagrach adeilad mewn gwlad mor dlos. Yna y mae ffordd union o'n blaenau, a choed hyd ei hymylon o hyd, yn ein harwain at y llyn. Gadawsom y meddyg diddan, wedi cael gwahoddiad i fwynhau cwpanaid o de. Fy nhemtasiwn i yw yfed gormod o de, ond bydd fy nghydwybod yn dawel iawn pan fydd meddyg wedi'm gwadd i brofi ffrwyth fy hoffaf ddail.

Gofynni imi, mae'n ddiameu, beth a wn o hanes y Bala. Ni wiw i mi ddweyd fawr o hanes ar ddydd gwyl. Ond gallaf ddweyd fod castell yn y dref unwaith. Y mae hanes ym Mrut y Tywysogion am gastell y Bala. Yr oedd Llywelyn ab lorwerth, un o'r tywysogion mwyaf welodd Cymru, yn graddol ddarostwng Cymru iddo. Yr oedd newydd ymheddychu â Gwenwynwyn tywysog Powys, yr hwn er ei fod yn garennydd i Lywelyn o waed, oedd elyn iddo oherwydd gweithredoedd. Yr oedd Elisi ab Madog wedi gwrthod dilyn Llywelyn yn erbyn Powys, gan ddewis yn hytrach ymuno â Gwenwynwyn. Pan wnawd heddwch, daeth dydd ei gyfrif. "Ac yn y diwedd y rhodded iddo, yn gardod ei ymborth, gastell a saith tref bychein gydag ef. Ac felly, gwedi goresgyn castell y Bala, yr ymchwelodd Llywelyn drachefn yn hyfryd."

Wedi gorchfygu Cymru yn 1282, yr oedd y Bala yn un o'r trefydd y cadarnhawyd ei breintiau gan frenhinoedd Lloegr, — yr oedd ganddi hawl, yn ol arfer y trefydd, i groesawu masnachwyr i'w ffeiriau, ac i gadw Iddewon draw o'i thai to brwyn. Yr adegau hynny yr oedd Syr Walter Manny'n hela'r ceirw hyd ael y Wenallt draw ac hyd ffriddoedd Cwmffynnon. Bu i'r dref faer hyd y ganrif ddiweddaf, pan gawn hanes am ddau'n ymryson am yr anrhydedd, — "dau faer drwg yn difa'r dre."

Ond ynglyn a hanes crefydd Cymru, nid ynglyn a hanes ei rhyfeloedd a'i masnach, y mae'r Bala'n enwocaf. Bu ei sasiynau yn foddion deffroad crefyddol trwy Ogledd Cymru; a bu yr Ysgol Sul berffeithiwyd ynddi yn foddion deffroad meddyliol ac yn sylfaen yr hyn a wnawd dros addysg byth er hynny.

Ond dyma ni wrth gwrr y llyn, ac un o olygfeydd prydferthaf Cymru o'n blaenau. Ym- estyn y llyn, a'i ddyfroedd gleision tawel yn adlewyrchu'r bryniau a'r penrhynnoedd coediog, am aml filldir at odrau'r mynyddoedd draw. Dacw'r Aran fawreddog, — pe buaswn bagan, hi fuaswn yn addoli, — a dacw Gader Idris yn edrych dros ei hysgwydd.

"Y mae dinas dan y llyn, onid oes ? Clywais son am gloch y Bala." Oes y mae dinas, ebe traddodiad, dan y llyn, a chlywir swn cloch y Bala ar ambell hirnawn haf yn dod i fyny'r trwy'r dyfroedd tawel. Mi a glywais y clychau fy hun. Dywedodd rhywun wrthyf mai bendith fyddai i'r hwn a'u clywai. Ac ar ryw ddiwrnod rhew yng nghanol y gaeaf, ar ddydd pen fy mlwydd, clywn swn mil o glyohau aur ac arian. Yr oeddwn yn dod ar hyd y ffordd sydd o'n blaenau'n awr, a thybiais mai dychymyg oedd. Sefais a gwrandewais. Yr oedd pob peth mor ddistaw fel y gallwn glywed dwndwr yr aberoedd bach yr ochr draw i'r llyn. Ac yn sicr, dyna swn clychau filoedd yn codi o'r llyn. Wedi sylwi a chlustfeinio, gwelais fod y swn yn dod ar ol pob awel o wynt. Tybed ai'r tonnau oedd yn canu'r clychau dan gynhyrfiad yr awel ysgafn ? Toc deallais y dirgelwch. Yr oedd miloedd o fân dipynau o rew wedi eu hel at eu gilydd gan y gwynt, wedi'r meiriol diweddaf, i gwrr y llyn; a phan ddeuai'r awel ysgafnaf, curai'r tipynau yn erbyn eu gilydd, gan wneyd swn fel mil o glychau. Nis gwn ai clywed swn tebyg wnaeth i rywrai gychwyn traddodiad fod clychau dinas foddwyd i'w clywed yn y llyn.

Wedi rhyw filldir o gerdded hyd lan y Ilyn, yr ydym yn cyrraedd pentref Llanycil. Nid oes yn y pentref i gyd erbyn hyn ond tri thy ac eglwys, wedi eu hadeiladu ar wastadedd bychan ffurfiwyd gan afonig wrth ddiwyd gario graian o'r mynyddoedd i'r llyn. Y mae'n sicr gennyf nad oes yng Nghymru fynwent mewn lle prydferthach. Y mae y llyn yn dod at ei mur, ond ni chlywais ei fod yn ei gynddaredd mwyaf wedi meiddio cyffwrdd â'r pridd cysegredig. Heibio i un cwrr rhed "Aber Gwenwynfeirch Gwyddno" gyda'i thraddodiadau paganaidd am Geridwen; a thraw dros y dwfr gwylia'r Aran lannerch y marw a'r fro sydd o'i chwmpas. Ond trown at y beddau. Dacw fedd Tegidon, draw dacw fedd Dafydd Cadwalad, dyma feddau'r Prysiaid a'u harwyddair mai hwy y pery clod na hoedl, a dyma faen cof am Siarl Wyn o Benllyn, — y bardd ieuanc roddwyd i huno ar lan y Mississippi. Wrth dalcen yr eglwys, y talcen nesaf i'r Bala, dan gysgod yr eglwys a'r yw, y mae gorffwysfan Llwydiaid Plas yn Dre. Yno hefyd y gorwedd Charles o'r Bala a Dr. Edwards. Gerllaw dyma fedd Dr. Parry, wedi mynd i mewn i "orffwysfa Duw." A dyma fedd loan Pedr, ger bedd ei dad. Y mae tawelwch y nefoedd dros y fro dlos, y mae pob peth mor ddistaw fel y gallwn ddychmygu clywed lleisiau'r byd a ddaw'n gwneyd y byd hwn yn berffaith ddedwydd. Y mae hanes bywyd syml llawer gwladwr ar y cerrig o'n cwmpas, un ddanghosodd trwy ei fywyd beth oedd effaith dysgeidiaeth yr athrawon a'r pregethwyr sydd heddyw mor fud ag yntau ar lan y llyn. Ni fum yn yr eglwys hon erioed heb benderfynu cael diwrnod cyfan i'w dreulio yn ei tawelwch hafaidd, gan dybied fod dwysder y fan fel cawod fendith i'r meddwl lluddedig a therfysglyd.

Ond y mae'r bore wedi mynd. Rhaid oedd i ni droi'n ol ar hyd glan y llyn tua'r dref a Bod Iwan. Wedi cyrraedd y fan lle gadawsom Fichael Jones, troisom o'r dref ar ein chwith, a cherddasom tua'r Coleg sydd wedi ei adeiladu ar fryn uwchlaw y dref. Wedi dringo peth ar ael y bryn, a gadael Coleg y Methodistiaid ar ein de, daethom at y llwybr sy'n arwain at Fod Iwan, a throisom at y ty. Y mae mewn lle tawel a hyfryd, a dwndwr dedwydd mil o wenyn yn crwydro dros y miloedd blodau. Gyda i mi fynd i mewn i'r neuadd, clywsom dinc ar y delyn, — y mae Bod Iwan yn gartref y delyn hefyd. Cawsom groesaw mawr, ac yr oedd yn rhaid i ni giniawa. A dweyd y gwir, yr oeddym wedi anghofio pobpeth am ginio tan y funud honno.

Dywed un o'r trioedd fod dau beth, er dryced ydynt, nas gellir gwneyd hebddynt, — brenin, offeiriad, a gwraig. Yr wyf yn ameu beth yw syniadau Mr. Jones am frenin ac offeiriad; gwn i sicrwydd beth yw ei syniadau am briodi, clywais ef yn dweyd droion mai un o roddion gwerthfawrocaf rhagluniaeth iddo ef ydyw ei wraig. Ac yn wir, gellir galw Bod Iwan yn "hafod y wraig lawen." Nid mewn dull amwys y dywed Mr. Jones ei feddwl am ei gas ddynion ac am ei gas bethau, — a mwyn ydyw clywed Mrs. Jones yn hanner gwrthwynebu, er ei bod hithau'n amlwg o'r un feddwl. Wedi cinio casglwyd y teulu ynghyd. Darllennodd y penteulu bennod, yna adroddodd pawb adnod, a holwyd pob un am ystyr ei adnod, ac yna gweddiwyd. Gwelais hyn yn cael ei wneyd droion yn y bore ac yn y nos, — yn aml mewn rhyw bum munud nas gellid gwneyd un defnydd arall o honynt, — ond ni welais y rhan oreu o'r diwrnod yn cael ei roddi i'r ddyledswydd deuluaidd o'r blaen.

Arweiniodd Mr. Jones ni i'w fyfyrgell. Nid yn y ty y mae, cerddasom iddi ar draws llecyn a'm hadgofiai am hoff bethau Sion Tudur,—

"Myfyr encilgoed,
Canmoliaeth cydwybod."

Wedi cyrraedd y fyfyrgell dechreuwyd troi a throsi llyfrau Cymraeg, a chawd ymgom am lenyddiaeth ein dydd. Soniwyd am y sothach di chwaeth a di ddiwylliad werthir yn siopau llyfrau ein gwlad, — esgymun bethau llenyddiaeth Lloegr, na ddarllennir y tu hwnt i glawdd Offa ond gan wehilion Philistaidd wrth gofio am eu cwrw. A gresynwyd wrth weled Cymry mor ddidaro ynghylch meddwl a llenyddiaeth eu gwlad eu hun. Gwelsom yn eglur fod Michael D. Jones yn credu'n gryf yn Rhagluniaeth ac yng ngwerin Cymru. Os daw ei obeithion oll i ben, bydd dydd disglaer yng Nghymru yn amser da Duw. Pan yn gadael Bod Iwan yr oeddym wedi penderfynu gwneyd a fedrem i wasanaethu ein gwlad a'i gwerin. Wrth fynd i lawr, daeth Mr. Jones gyda ni ran o'r ffordd, a throisom yn ol i edrych arno'n araf ddringo'r rhiw tuag adref.

Y mae'r meddyg yn ein disgwyl, a'r te. "Uwd a Rhodd Mam fydda i'n preiscribio iddo fo, welwch chwi," ebe'r meddyg am danaf fi. "Y mae wedi bod yn yr ysgol er's blynyddoedd, ond nid ydi o ddim wedi dysgu Rhodd Mam eto; y mae hwnnw'n deyd fod gan ddyn gorff, heblaw enaid. Ac nid ar de y medr y corff fyw." Daeth llu o ddifir hanesion, ac aeth yr amser yn chwim. Nid oedd wiw meddwl am fynd i rwyfo awr neu ddwy ar y llyn; y mae prysurdeb y dyddiau hyn yn gwneyd gorffwysdra'n beth sy'n perthyn i'r amser fu. Y mae a fynno amser anhyblyg y tren lawer â'r prysurdeb di-ddaioni hwn; yr oedd mab y frenhines yn ei golli'r diwrnod o'r blaen, ac yn gorfod ymdaro gore gallai mewn tren pysgod. Collais innau'r tren unwaith ar adeg bwysig, er nad wyf fab i frenhines, a gorfod i mi gyd-deithio â sach flawd, yr hon a'm gwnaeth mor wyn a phe buasai gwenwisg am danaf.

Gwaith anodd ydyw gadael y Bala bob amser; yr oedd yn anhawddach nag erioed ar ddiwedd y prydnawn hafaidd hwnnw. Gwyddwn am lawer aber ddedwydd, a chysgod dan goed cyll ir ar ei glan; gwyddwn lle'r oedd y corn carw'n tyfu ar lethrau'r bryniau uwchben y llyn a lle'r oedd mafon cochion ddigon yng nghysgod y gwrychoedd; adwaenwn lawer hen gymeriad fuasai yn adrodd darn o bregeth y Sul diweddaf ac ystori am y Tylwyth Teg bob yn ail. Ond dacw'r llyn yn colli o'r golwg, a'r Aran yn araf ddiflannu. A minne a orffennaf lle mae'r prydydd yn dechreu, trwy ddweyd, —

"Y Bala, Salem wen
Gad ira dy alw.
Boed bendith ar dy ben,
Ti haeddi'r enw."

Nodiadau[golygu]

  1. Y mae hyn llai gwir beth, ar ol Deddf Addysg; Ganolraddol.
  2. Erbyn hyn y mae ei athrawon wedi symud i'r bedd neu i Fangor.