Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Fy Nhad

Oddi ar Wicidestun
Llyfr y Seiat Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards

Y Bala

FY NHAD.


DDOE, wrth grwydro hyd Iwybrau fy mebyd, dois bron heb yn wybod i mi at hen fwthyn fy nhad. Na, nid yw yr hen fwthyn yno, — er fod y pistyll mor loew ag erioed, a'r masarn a'r derw cawraidd eto'n cysgodi'r lle. Y mae'r mynydd mawr, welwn o ffenestr fy ystafell wely, yr un hefyd, gyda'i fil o ddefaid mân; a thybiwn glywed, yn nwndwr yr afon islaw, leisiau mwynion sydd wedi tewi er ys llawer blwyddyn faith.


Daeth noson marw fy nhad i'm cof fel pe buasai neithiwr. Torrodd y noson honno fy nghysylltiad i a Llan y Mynydd; ac nis gwn beth sydd wedi fy nhynnu i'r hen fro yn ol. Cofiwn am y noson ystormus yn y gwanwyn, pan ocheneidiai'r gwynt wrth guro ei adenydd nerthol yn erbyn bronnau'r mynyddoedd, a phan oedd pob afon a nant yn llawn o ddwfr ffroch- wyllt at ei hymylon. Y noson honno, mewn tangnefedd na fedd y nefoedd ei dynerach, y ffarweliais â fy nhad. Nid oedd fy nhad yn wr blaenllaw gyda dim. Nid un o feibion yr argyhoeddiadau cryfion oedd ef, ac ni yswyd ei fywyd gan uchelgais y byd hwn. Pe dywedwn ei fod yn hoffach o'r seiat nag o gyfarfod cyfeillion difyr, pe dywedwn ei fod yn hoffach o weddio ar Dduw nag o ganu mawl pob peth tlws a wnaeth, — pe dywedwn y pethau hyn, dywedwn fwy na'r gwir. Ond yr oedd yn hapus iawn, yn ei fyw ac yn ei farw. Ymhyfrydai yn nhlysni creadigaeth Duw. Rhodiai'r caeau gyda'r gwanwyn, a dygai flodeuyn cyntaf ei ryw i ni, — llygad y dydd, clust yr arth, dôr y fagl, cynffon y gath, blodau'r taranau, y goesgoch, hosan Siwsan, clychau'r gog, anemoni'r coed, blodyn cof, — a phob blodyn dyfai hyd lechweddau a gweirgloddiau ein cartref mynyddig. Gwelai ffurfiau prydferth a lliwiau gogoneddus yn y cymylau, a llawer noson haf ein plentyndod dreuliasom gydag ef i weled y rhyfeddodau hynny. Byddai wrth ei fodd o flaen tân coed ar hirnos gaeaf, gwelai'r gwreichion yn ymffurfio'n bob llun, a danghosai ryfeddodau i ni yn y rheiny. A holl lu y nefoedd ar noson rewllyd, — hyfrydwch Pleiades a rhwymau Orion, Mazzaroth ac Arcturus, a'i feibion, — ymgollai mewn mwynhad pan gymerai fi ar ei fraich, yn blentyn pedair oed, i ddangos i mi amrywiaeth diderfyn yr ehangder mawr.


Treuliai lawer o'r haf i'm dysgu, yn ei ffordd ei hun. Cymerai fi i'r mynydd ar brydnawnau heulog cyn i mi fedru dechreu cerdded, a dysgai fi i wneyd cyfeillion o'r llygad y dydd ac o'r fantell Fair wenai o'm cwmpas. Pan ddechreuais gerdded, ai a mi i ben y mynyddoedd, a danghosai gyrrau ardaloedd ereill i mi, gan ddweyd beth oedd yn tyfu yno a phwy oedd yn byw yno, a pha rai enwog, yn enwedig pregethwyr, a fagesid yno. Cadwodd ireidd-dra ei blentyndod drwy ei fywyd, yr oedd pob peth yn llawn rhyfeddod iddo.


Yr oedd yn hoff o bob peth byw. Yr oedd ganddo gân, ac enwau yr holl adar wedi eu gwau ynddi. Gwyliai'r defaid a'r cwn a'r gwartheg fel pe buasent yn meddu enaid a meddwl, a gwelai rywbeth tarawiadol yn eu bywyd o hyd.


Ni chlywais ef erioed yn ameu amcan neb, nac yn dweyd gair angharedig am neb yn y byd.


Digiai wrth un am enllibio neu ddweyd geiriau di-chwaeth, ond ni ddywedodd air erioed i friwio teimlad neb. Ni chlywais air drwg na dichwaeth o'i enau. Gallwn ddweyd am dano ar lan ei fedd, fel y dywedai Ap Vychan am ei fam, — "Dyma un na chlywodd ei blant erioed air drwg oddiar ei wefusau."


Hwyrach y meddyli yn dy ddiniweidrwydd, ddarllennydd mwyn, mai rhyw angylion bach o blant oedd fy mrodyr a minnau, ac mai hawdd i fy nhad oedd cadw ei dymer wrth ein magu. Ond, os tybi hyn, syrthi i gamgymeriad. Yr wyf yn cofio fod fy nhad unwaith wedi ei wahodd i briodas, ac wedi prynnu het befar uchel loew ar gyfer y dydd. Y noson cyn y briodas medrodd fy mrawd a minnau gael gafael yn yr het newydd, ac aethom a hi allan i'r caeau i wneyd arbrawfion arni. Eisteddasom gefn-gefn ar ei phen, a'n traed ar ei chantal. Codasom ein traed ein dau ar unwaith, a gollyngodd yr het danom. Yr oedd fel conrertina. A chyn ei dychwelyd i'w chas, yr oedd dau borchell bach, — un du ac un gwyn, — wedi bod yn trwsio tipyn ar ei ohantal yn ol eu mympwy eu hunain. Ond, wedi eiliad o gythrwfl meddwl, cafodd fy nhad gymaint o fwynhad a ninnau a'r ddau fochyn bach. Dro arall, pan oedd wedi lledu ei line bysgota ar y llawr, ac wedi ei dad-ddyrysu'n llwyddiannus iawn, gollyngasom ddwy gath ddu i redeg trwy droion y line. Ni ddywedodd nhad ddim ond mai dyna'r ddau blentyn rhyfeddaf a welodd efe erioed, a'r ddwy gath ddu waethaf.

Hunodd ar fin ei bedwar ugain oed, yr olaf o deulu hoff o grefydd a mwynder a chân. Ei alawon di-rif, ei ystoriau diddan, ei ddywediadau pert, — y mae y rhai hyn yn fy nghof; ond, er chwilio'r pedwar ugain mlynedd yn fanwl, ni fedraf weled un gair celwyddog nac un gair amheus.

Ei noson olaf sydd yn fy nghof heno. Yr oeddwn gydag ef; a wynebai dragwyddoldeb mor fwyn ac mor ddibryder ag y gwynebodd holl droion y byd hwn. Ei hoff bobl oedd yr hen bregethwyr, yn enwedig pregethwyr y Deheudir. Yn ei gartref ef yr arhosent; cofiai wedd a geiriau pob un ohonynt, er na welsai hwy er yr amser y cymerid ef yn blentyn ar eu glin. Tybiwn ei fod. yn ei funudau olaf, yn cydio yn y byd hwn; ond fod yr hen bregethwyr yn ei gyfarfod. Anghofiodd lle yr oedd wrth groesi terfyn deufyd. Capelau'r byd hwn. pregethwyr y byd a ddaw, — treiai edrych yn ol ac ymlaen ar unwaith. Yr oedd yng nghyfarfodydd gweddi ei ieuenctyd, mewn hen gapel llwyd sydd wedi diflannu erbyn hyn. Daeth goleu newydd i'w lygaid, ac ebe ef, —

" Ydi'r bobol i gyd wedi dwad i'r capel ?"
" Na, nid i gyd."
" Wel dos, mewn munud, i ddeyd wrthyn nhw am ddwad. Dacw Ebenezer Morris." Hunodd yn dawel, fel y syrth plentyn i gysgu. Gwelais fod angeu yno, ond fel gwas Brenin Heddwch. Ni ddychrynnodd fy nhad, ac ni ddychrynnodd finnau. Ond gwnaeth yr hen gartref yn oer pan roddodd derfyn i fywyd di-wenwyn yr ysbryd addfwyn hwnnw.

Troais i edrych trwy'r ffenestr. Yr oedd y bore'n llwyd dorri, ac yr oedd rhyferthwy ystorom yn cuddio'r mynyddoedd mawr. Lluchid y cymylau yn ddarnau yn erbyn y creigiau gan y gwynt, a rhuthrai aberoedd gwylltion ewynog hyd y llethrau serth ar fy nghyfer. Gwyrai'r coed mewn ofn o flaen ysbryd yr ystorm; ac fel y cryfhai'r wawr, danghosai'r dydd agwedd newydd ar ryfel yr elfennau. Mynych, pan yn blentyn, y bum yn syllu ar ruthr yr ystormydd oddiar fraich fy nhad. Ond dyma ddydd wedi torri y rhaid i mi edrych arnynt fy hun.

"Ni wna dim i ddyn deimlo nas gall wneyd heb Dduw," ysgrifennodd cyfaill ataf, "fel colli tad. "Er cymaint o wirioneddau tarawiadol ddywedodd y cyfaill hwnnw yn ei oes, ni ddywedodd ddim byd mwy gwir na hyn.