oddi tanom ac ar y bryniau a'r dyffrynnoedd draw. Toc daethom i ben y tir, lle y bu Ieuan Brydydd Hir yn hiraethu am dano,—
O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoyw—fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwěl,
Ac iachus yw, ac uchel;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raean ro,
A redant mewn ffloyw rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau.
Dacw ysgol Ystrad Meurig ar ael y bryn. Mor hoffus oedd bywyd yr Athro Edward Richard, ac mor felys yw ei fugeilgerddi ar y mesur tri tharawiad. Bob tro y dof i'r llecyn hyfryd hwn, daw ei linellau melodaidd i'm meddwl, a hefyd y cof iddo unwaith adael ei ysgol am flwyddyn oherwydd fod ei gydwybod yn dweud y dylai ddysgu ychwaneg. Ac yn awr wele'r gors o'n blaen, ac yr ydym ninnau ar ei minion.
A rhyfedd iawn, wele hi, nid yn ddu a thrist fel arfer, ond yn wen fel pe bai dan gaenen o eira. Nid eira mohono, gwyddwn hynny'n dda, ar haf fel hwn. Yr oedd y gwynder yn fwy cain na gwynder eira, yr oedd yn wyn cynnes disglair hefyd, gwyn fel gwyn edyn angylion oedd. Nid oedd y gors yn wen i gyd, ond yr oedd y llanerchau gwynion oedd hyd-ddi fel pe'n taenu eu purdeb gwyn a chynnes hyd y banciau a'r mawnogydd i gyd. Yr oedd y ffosydd wedi eu gweddnewid dan wên heulog yr haf, nid oedd eu duwch yn edrych yn hagr na 'u dŵr yn oer. Yr oedd golwg gartrefol groesawgar ar y teisi mawn, dygent i gof y mwg glas fydd yn esgyn o simneiau bythod Cymru ar nawn haf. Yr oedd y gors wedi ei gweddnewid.