Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Plu'r gweunydd, hen gyfeillion mebyd i mi, oedd wedi gwneud y gwaith. Yr oeddynt yno wrth eu miloedd, yn llanerchi o wynder ysgafn, tonnog, byw, heulog. Hwy roddodd i'r hen gors ddu hagr ei gogoniant gwyn. Yr oedd eu plu tuswog yn llawnion, ac eto'n ysgeifn. Gwyddwn mor esmwyth yw eu cyffyrddiad, un o bleserau mebyd oedd eu tynnu ar draws ein bochau. Ond ni welais hwy erioed yn edrych mor ieuanc, a'u gwyn mor gannaid, a'u hysgogiadau mor fywiog. Yr oedd yr awel ysgafnaf yn gwneud iddynt wyro, fel pe baent filoedd o angylion yn addoli. Yna'n sydyn taflent eu pennau'n ol, ac ysgydwent, fel pe baent dyrfaoedd rianedd mewn gwisgoedd gwynion yn dawnsio. A thoc ymdawelent, a gorffwysent yn eu gogoniant, dan adlewyrchu goleu'r haul, yn esmwythach ac yn burach goleu na phan y disgynnai arnynt. Tybiwn fod y bryniau a'r mynyddoedd o amgylch yn codi y tu ol i'w gilydd i edmygu plant angylaidd y gors, a bod llwybrau dynion yn cadw oddiwrthynt rhag torri ar heddwch mor dyner a difwyno tlysni mor bur. Yr oedd cyfuniad o wynder, disgleirdeb, a chynhesrwydd yn y fan olaf yng Nghymru y buaswn yn mynd i chwilio am dano.

Daeth llond fy nghalon o ddedwyddwch. Yr oeddwn mewn heddwch â'r lle na hoffwn gynt; yr oedd pob llecyn yng Nghymru yn awr yn brydferth i mi. A'r dydd hwnnw sylweddolais lawenydd y ddynol ryw pan welodd gyntaf dlysni hedd y mynydd, y rhostir, a'r môr. Yn llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag, diweddar yw'r gwelediad hwn. Nid oes yn Shakespeare a Milton gydymdeimlad a mawredd y mynydd, ag eangder y rhostir maith, â bywyd diflino'r môr; edrychid arnynt fel pethau aruthr ac ofnadwy. Ond