Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

danghosodd Gray fawredd y mynyddoedd, a Cowper brydferthwch pruddglwyfus y tiroedd gwastad, a Collins swyn yr anialwch, a Byron ardderchowgrwydd y môr. phan ddanghosodd Wordsworth i'w genedl holl dlysni natur wyllt, daeth dyn i heddwch â'r hyn a ofnai gynt; a daeth i'w galon lawenydd fel y llawenydd hwnnw deimlais i pan ddanghosodd plu'r gweunydd imi brydferthwch y gors.

Cododd awydd arnaf am aros yn nyffrynnoedd Ceredigion, i lenwi f'enaid â thlysni. Crwydrais i lawr dyffryn Teifi, i weled ei bethau prydferthaf. Yr oedd y dŵr ddaethai heibio i blu'r gweunydd o'r gors yn glir fel y grisial, ac yr oedd dwndwr Teifi mor felys a chywyddau Dafydd ab Gwilym,—

"Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loywaf afon
Fal Dafydd y sydd yn son."

Nid oes gennyf eiriau i ddarlunio golud tlysni dyffryn Teifi. Ond er teced yw bronnydd Llandyssul, er maint swyn Castell Newydd Emlyn, er fod y wlad ar ei thlysaf yng Nghenarth a'r môr ar ei hawddgaraf yn Aberteifi, ehed fy meddwl yn ol at blu'r gweunydd yn y gors a ofnwn gynt. Hwy yw plant pur y mynyddoedd, lle mae'r awel iach yn deffro'r meddwl, ac yn rhoi hoen yn lle suo i gwsg.

Yr wyf yn cofio imi, pan yn fachgen, orfod mynd heibio mynwent yn y wlad tua hanner nos ar ddiwedd taith hir. Yr oedd bachgen hŷn na mi gyda mi, a gofynnais iddo a oedd arno ofn. "Nac oes," oedd yr ateb syml, "y mae mam