Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y ddwy. Yn Llydaw Babyddol, pobl dlodion a diog, — rhai heb law na phen na chalon, — a hwy'n unig, sy'n gorfod byw mewn tai fel tai amaethwyr cynnil deallgar Cymru. Estronodd y Diwygiad werin Cymru oddiwrth ei harglwyddi, — oddiar hynny, nid edrych y landlordiaid ar y bobl fel rhai i'w deall ac i gydymdeimlo â hwynt, ond yn unig fel rhai i'w gorfodi i roddi gwasanaeth trwy rym cyfraith. Ac eto, y Diwygiad wnaeth y Cymry'n foddlon i ufuddhau i bob iod a phob tipyn o'r gyfraith sydd wedi gwasgu mor drom arnynt, y Diwygiad ddysgodd y Cymro nwydwyllt gynnig y gern arall i'r hwn a'i tarawo, ac i beidio gwahardd ei bais i'r hwn a ddygo ymaith ei gochl. Diwygiad crefyddol yng Nghymru, Chwyldroad yn Ffrainc, — y mae'r Cymro eto'n talu rhent uchel am ffermdy adfeiliedig, ac y mae'r Llydawr yn ei dŷ eang dan ardreth deg.

Llawer hanesydd sydd wedi cyferbynnu cyfraith Lloegr âg anghyfraith Ffrainc, sefydlogrwydd y naill ag anwadalwch y llall. Yr oedd yn Llydaw werin wedi ei gwneud yn fwystfilaidd gan orthrwm, yn ddigon bwystfilaidd i droi at yr arglwyddi oedd yn gwasgu eu cyfraith ddidrugaredd arni, ac i ddarostwng y rhai hynny i'w dialedd erchyll a'i chyfraith ei hun. Y mae yng Nghymru werin wedi ei gwneud yn ddeallgar a hir ei hamynedd gan ddysgawdwyr gododd Duw o fysg y bobl, ac y mae'n dioddef ac yn dioddef tra mae'r gyfraith yn araf gydnabod ei cham. Ni welir capel yn unman yn nyffrynnoedd ac ar fryniau Llydaw, ac ni welir yno hen amaethwr penwyn yn byw mewn beudy, oherwydd gwrthod ymddangos yng ngwasanaeth dienaid y Llan, neu