Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrthod dweyd fod rhyw filwriad o Sais yn deilwng gynrychiolydd ei sir Gymreig yn y Senedd.

Cyn hir, wedi cerdded ar i fyny am awr a hanner, daethom i ben y tir, a dechreuasom gerdded ffordd wastad drwy gaeau gwenith eang. Yr oedd blodau adnabyddus hyd glawdd pridd y ffordd, — y ben galed a chwilys yr eithin, caem ambell i air â phobl yn gweithio,— "bon jour," neu "amser braw," — a mynych y deuem at groes a rhai'n penlinio o'i blaen. Cyn dod i Bordic, gwelem groes garreg o gerfiad tlws ryfeddol, a darllennem ar ei gwaelod mai iddi hi y rhoddwyd y wobr yn St. Brieuc. Nid ydyw'r Llydawiaid, mwy na'r Cymry, yn gystal cerfwyr ar bren na charreg a'u tadau, ond gwneir pob ymdrech yn Llydaw i ail ddysgu cerfio pren marw'n flodau, a gwneud i garreg ddelwi cynhesrwydd bywyd. Cwynir yng Nghymru nad oes gennym gelfau cain, ond anaml yr ymgyfyd cyfarfod llenyddol yn uwch na rhoi gwobr am ffon neu olwyn berfa; cwynir fod gennym ormodedd o feirdd, ac eto rhoddir y gwynt a'r cread a'r haul a'r nos yn destynau gwobrwyedig i'r bodau hyn draethu eu bychanedd arnynt.

Gwlad anodd cerdded ynddi ydyw Llydaw, y mae'r awyr yn drom ac yn llethol, y mae'r golygfeydd yn undonog, ac nid ydyw'r ffyrdd yn cuddio'u hyd trwy droelli rhwng bryniau. Ond cyn i ni ddechre cwyno, gwelsom y môr. Rhyfedd y gorffwys rydd golwg ar ei bellter glâs. Ystwythodd ein coesau wrth ei weled, a chyflymasom i lawr tua Binic, ymdrochle bychan, cyrchle llawer o Ffrancod. Aethom i'r Hotel de Bretagne, a dywedodd hen ŵr llawen fod y cinio ar y bwrdd. Yr oedd yno gwmni mawr, a chedwid hwy'n ddifyr gan Ffrancwr anferth o gorff, a