haeddem. Yr oedd pawb gyfarfyddem yn awyddus am ysgwrs, gofynnent gwestiynau fel y gofynna torrwr cerrig ar y ffordd yng Nghymru,—"O ba wlad y deuwch? " Ai prynnu tatws yr ydych?" Cwynent mai ychydig iawn o longau ddaeth i chwilio am datws eleni, ac yr oeddynt yn siomedig pan ddeallasent nad oedd arnom ni eisiau taro bargen. Ond pan ddeallent mai Cymry oeddym, ail enynnai eu diddordeb, a dywedent yn llawen ein bod ni yr un bobl. Gofynnent i ni gyfrif neu ddweyd dyddiau'r wythnos yn Gymraeg, ac yna edrychent ar ei gilydd mewn syndod a dywedent,—Llydaweg bur ydyw hynyna."
Dros fryniau ffrwythlawn a thrwy ddyffrynnoedd coediog, gydag ambell gipolwg ar y môr, daethom i St. Quay a Phortrieux, dau ymdrochle bychan tlws, llawn o dai newydd, a chabanod ymdrochi, a Ffrancod. Dringasom riw hir a blinedig, ac arhosem yn aml i siarad â'r Llydawiaid caredig siaradus. Oni bai am drymder yr awyr, gallem feddwl mai yng Nghymru yr oeddym. Na, y mae un gwahaniaeth mawr arall, nid oes yma ddwfr rhedegog. Ceir ambell i bwll golchi ar ochr y ffordd, dwfr glaw wedi sefyll, a throchion sebon fel ewyn arno. Gwyddem am ŵr yfodd drochion sebon unwaith mewn camgymeriad am laeth enwyn. Troisom i mewn at hen wraig i ofyn a roi hi gwpanaid o ddwfr oer i ddisgybl, a chawsom ddwfr peraidd o waelod pydew oer. Yr oedd yr hen wraig yn dlawd iawn, stoc ei siop oedd corn o freth yn ac ychydig lysiau ; ond ni fynnai ddim gan bobl ddieithr am lymaid o ddwfr oer.
Erbyn cyrraedd Tref Eneuc, yr oedd yn dechre oeri at y nos, a ninnau wedi blino. Ond hen le tlawd, pentre o dai to gwellt yng nghanol