coed duon, heb westy o lun yn y byd, ydyw Tref Eneuc. Hysbyswyd ni y caem lety ym Mhlw' Ha, pum milltir ymlaen. Dilynwyd ni o'r pentre gan dyrfa o blant. Os oeddym ni mor ddigrifol iddynt hwy ag oeddynt hwy i ni, cafodd y plant bach hynny wledd. Yr oedd gan y bechgyn rwymyn — lledr am eu canol, a het wellt fawr ei chantal, a ruban melfed du am dani, am eu pen. Yr oedd gwallt y merched mewn rhwyd, fel y gwelwn wallt ein neiniau mewn darluniau, a chap gwyn ar eu coryn. Yr oedd pawb yn ei esgidiau pren; a chan eu bod yn gorfod rhedeg i'n canlyn, yr oedd sŵn eu traed fel cawod o wlaw taranau ar ddail crin. Yr oeddynt yn ofnus iawn, a chilient yn ol pan ddechreuem siarad â hwy. Ai Llydawiaid ydych?" Nage." Ai Ffrancod?" "Ie." "Sodlwch hi ynte," ebai Ifor Bowen, gyda threm hyllig, ac yr oedd yno dwrw llu o esgidiau pren yn clecian ar y ffordd galed.
Yr oedd yn noson hafaidd, gwelem y merched a'u crymanau'n dod o'r caeau gwenith, a chaem aml olwg bell brydferth ar y môr. Gwelem y dynion yn bwyta eu swper, — llaeth a bara du, — o gwpanau pren, ar drothwy eu tai, a chlywem sŵn y droell y tu mewn. Yr oedd yr haul wedi colli ers meityn y tu hwnt i Ynys Brehat pan gyrhaeddasom Blw' Ha, ar ben bryn. Cylch o dai o amgylch eglwys fawr ydyw, trigle rhyw bum mil o bobl. Cerddasom o amgylch yr eglwys, i weled holl gylch y pentre. Yr oedd yr holl drigolion yn y drysau'n edrych arnom, a thybiem nad oedd ond nyni'n dau a'n wynebau'n lîn ym Mhlw' Ha y prynhawn hwnnw. Pan fyddai tor yn y cylch tai, gwelem wlad eang o fryniau'n dwyshau at y nos.