Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethom at ddrws y gwesty glanaf welem, yr Hotel dela Poste, a dechreuasom siarad geiriau Cymraeg, er syndod a difyrrwch nid ychydig i'r yfwyr oedd yn llercian o gwmpas y drws. {{center block| <poem> "Nos fad." "Nos fad." "Bara, 'menyn, cig dafad?" "Ia, ia." "Dau wely dros y nos? " "Ia, ia."

Chwarddasant yn galonnog, a gwahoddasant ni i mewn i gegin fawr dywell. (—Tro yn Llydaw.)

Genoa

I MI, diwrnod o sylweddoli tlysni Itali oedd y diwrnod a dreuliais i gerdded yn ôl ac ymlaen hyd Fur yr Ogof. Wedi hir alaru ar eangderau gwynion o eira, mwyn oedd gweled lliwiau tyner Môr y Canoldir,-y creigiau llwydion, yr olewydd gwyrdd, yr eurafalau, a glas y môr, gyda'i ymyl o ewyn gwyn.

Eistedd y ddinas ar odrau'r mynydd, ar fin ei phorthladd digymar, fel gwraig deg, meddai ei beirdd, yn edrych ar ei llun ym mhrydferthweh. tawel ei hafan dymunol. Ymdroella ei mur am naw milltir hyd ochr y bryn o'i hamgylch, of amgylch ei phinaclau a'i heglwysi a'i phalasau, fel llinyn am bwysi o flodau. Y tu ôl, ymgyfyd. copâu afrifed yr Apeninau, pob bryn mewn mantell laes o eira, ac amddiffynfa fel coron ddu ar bob pen. Ond, fel geneth gariadlawn, troi a wna Genoa oddi wrth harddwch urddasol y mynyddoedd, ac ymhyfrydu yn nhlysni'r môr.