Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tlws ydyw'r bore, pan fo'r haul yn goreuro'r ewyn ac yn ariannu dail yr olewydd, pan fo'r awelon yn chwyddo hwyliau llongau dirif sy'n cyrchu o'r dé i osod eu marsiandiaeth i lawr wrth draed y ddinas dlos. Hwyliau duon, melynion, gwynion, yn nhlysni blodau, gydag esmwyth symudiad eleirch, ymdonnant tua thraeth bren- hines y gorllewin for. A thlws odiaeth ydyw'r hwyr, pan fo machlud haul yn gwisgo mynyddoedd afrifed y traeth mewn lliwiau dirifedi, lliwiau tyner, gwawr a gwrid a goleuni.

Rhwng y mynyddoedd acw, sy'n ymestyn hyd ymyl y môr tua'r gorllewin, y mae aml i hafan swynol, lle'r ymsaetha'r balmwydden i fyny dan goron o flodau o'r gwynnaf, fel pe bai newydd godi trwy'r ewyn sy'n trochioni oddi tani, lle mae'r lemonau mor euraid oherwydd fod y môr mor las oddi tanodd, a'r olewydd mor wyrddion fry. Ac mewn aml i gilfach, lle mae haul y bore yn gystal â haul yr hwyr yn gwneud cysgodion, mae adfeilion distaw rhyw bentref fu gynt yn llawn o forwyr; neu eglwys wedi ei gadael ar hanner ei hadeiladu, oherwydd i'r adeiladwyr fynd ar hynt o'r hon ni ddychwelasant, gan gredu y buasai Mair yn gofalu am eu dwyn yn ôl i orffen ei heglwys, ond ofer fu eu ffydd, a goddiweddwyd hwy gan donnau'r môr; neu gastell wedi ei dorri oesoedd yn ôl gan fôr-ladron, y pelican a'r ddylluan a letyant ar gap y drws, eu llais a gân yn y ffenestri, anghyfanedd-dra sydd ar y gorsingau.

Ond, pa nefoedd fechan bynnag, pa hagr adfail bynnag, sydd rhwng y bryniau a ymestynant yn llinell hir ar hyd y traeth y mae'r haul yn eu gwisgo i gyd yn yr un gogoniant, fel y mae gobaith yn goreuro llwybr y dyfodol, llwybr ar hyd traeth