Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn llawer eglwys lle'r ymgyfyd colofnau dirif mewn gweddus drefn, lle tynerir y goleuni gan wydrau lliwiedig y ffenestri prydferth, lle'r ymchwydda'r miwsig tawel, tonnog, crynedig, nes gwneud i mi anghofio am fy ngharchar pridd, a meddwl mai rhyw ddarn o gwmwl haf oeddwn, neu ochenaid awel, neu rywbeth arall ysgafn, ysgafn. Ond nid oeddwn yn teimlo fod hyn yn addoli; ni allwn feddwl fy mod yn edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac yn ymofyn, yn ei deml. Hiraethwn am ryw hen gapel llwydaidd ar ochr bryn neu waelod dyffryn yng Nghymru; meddyliwn am y tawelwch hyfryd hwnnw sy'n llenwi'r muriau diaddurn ar brynhawn yn yr haf, cyn i'r pregethwr ddod; distawrwydd dorrir yn awr ac eilwaith gan ochenaid rhyw hen flaenor, hanner of dduwioldeb a hanner o gysgadrwydd. Hwyrach nad ydyw'r canu yn gelfyddydol iawn; hwyrach fod bâs rhyw hanner dwsin o weision ffermydd. neu alto caled nifer o blant yn rhy gryf i wneud y cytgord yn berffaith; hwyrach fod y gynulleidfa. mor gysglyd fel y gellid meddwl mai anadliad araf ei chwsg ydywDiniweidrwydd," neu mai ei sŵn yn hepian ac yn deffro bob yn ail ydyw'r "Hen Ddarbi." Ond, er hynny, y mae'r bobl yn gwybod beth maent yn ei wneud, deallant yr emynau, ac y mae eu canu yn rhywbeth gwell nag ymgais i ddynwared trefn seiniau rhyw gyfansoddwr athrylithgar y mae'n fynegiad o ym- drech meddwl. Gwell gen i gydrodio adref â thyrfa o Gymry o ryw hen ysgubor o gapel, a'u clywed yn trin, pynciau'r bregeth, na dod o Eglwys Babyddol brydferth Strasburg, neu Eglwys Brotestanaidd Salisbury, gan wrando'r bobl yn canmol y côr neu yn synnu at gryfder sŵn yr organ.