Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Addefaf nad wyf fi'n feirniad diduedd. Y mae'r argraffiadau roddir ar enaid plentyn yn annileadwy; yr wyf fi'n gorfod teimlo hynny'n fwy o hyd. Er na fedraf ganu y mae sŵn y tonau a'r alawon Cymreig yn rhan o'm henaid; er fy ngwaethaf yr wyf yn cael fy hun yn beirniadu pob canu arall yn ol fel y bo'n debyg neu'n anhebyg iddynt. Ni welaist ti hen gapel Llanuwchllyn, ar lan dwfr tawel, a'i do heb fod yn uwch na thai y pentrefwyr o'i amgylch. Moelion oedd ei furiau, ond fod ambell ysmotyn llaith yn rhoi tipyn o amrywiaeth i'w lliw; yr oedd ei feineiau weithiau'n esmwyth, weithiau'n galed, yn ol fel y byddai y bregeth; hirgul oedd ei ffenestri ac heb addurn, ond pan ddoi'r barrug i dynnu darluniau arnynt. Ac eto, dyna'r lle prydferthaf bûm i ynddo erioed. Ynddo y dechreuais feddwl, ynddo y syrthiais mewn cariad am y tro cyntaf, ynddo y teimlais ofn colledigaeth a swyn maddeuant, ynddo y cynhyrfwyd fi gyntaf gan uchelgais ac yr iselwyd fy malchter wrth glywed nad oedd ynof haeddiant, mae pob teimlad a meddwl dyfnach na'i gilydd, dynol ac ysbrydol, yn cyfeirio'n ôl at yr hen gapel llwyd. Nid oedd yno dlysni adeiladaeth na darluniau, ond drwy ffenestr oedd ar gyfer ein sêt gallwn weled y gwynt yn gyrru'r glaw ar hyd ochrau'r mynyddoedd, ac yr oedd yno goeden griafol yn ymwyro gyda'r awel mewn dull na all yr un o'r "celfyddydau breiniol," hyd yn oed pe bai gennym ryw Fac Whirter o Gymro, ddarlunio prydferthwch ei changhennau. Y mae'r hen gapel a'r bobl oedd ynddo wedi newid llawer erbyn heddiw, ond pan ddaw meddyliau am y nefoedd i'm meddwl crwydrol i, hwyrach y gweni wrth i mi ddweud mai fel hen gapel Llanuwchllyn yn union yr ym-