Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddengys i mi—y teuluoedd yn eu seti, pawb yn yr oed yr oeddynt, a'r pregethu, a'r canu gorfoleddus, a sŵn lleddf y gwynt, a'r hen goeden. griafol.

Yr wyf yn ynfydu fel hyn er mwyn dangos nad wyf yn ffit o feirniad ar ddim; y mae fy rhagfarnau mor gryf, a'r hen ddelwau mor gysegredig. 'Wn i ddim p'run ai crino ai aeddfedu yr ydwyf; p'run ai gwendid meddwl dyfodiad henaint, ynte doethineb profiad sydd yn fy meddiannu. Tybiwn unwaith mai trwy gyfrwng y celfau cain yr oedd hawsaf addoli. Ond mi wn fwy o hanes yrwan. Gwelaf mai nid yn yr un oes â chrefydd bur y mae'r celfau cain yn blodeuo. 'Does gan ddynion mo'r amynedd i ddarlunio eu teimladau mewn cerrig neu baent pan fo en heneidiau ar dân. Pan fo diwygiad wedi llosgi allan, pan fo'r ystorm wedi llonyddu, y daw'r adeiladydd a'r arlunydd at eu gwaith. Pan fo cenedl yng nghryfder ei meddwl, yng ngrym ei datblygiad, yn ymysgwyd o'i chadwynau, ni fedr ond dweud a chanu. Y prawf cryfaf i mi o nerth iach Cymru ydyw y ffaith mai mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth yn unig y mae ei bywyd wedi ymddarlunio hyd yn hyn; ac yn y celfau hynny y mae Cymru wedi gwneud mwy na'i rhan i gyfoethogi'r byd yn yr hanner can mlynedd diwethaf, pe na bai ond am y tri wŷr hyn—Hiraethog, Ceiriog, ac Islwyn.

Fe ddaw tro Cymru i roddi arlunwyr a cherfwyr i'r byd, pan fo'r bywyd cryf sydd ynddi'n awr wedi dechrau aeddfedu a gwanhau. Nid pan fo'r haul yn nisgleirdeb canol dydd y gwelir ei brydferthwch, ond gyda'r nos, pan fo'n goreuro'r bryniau, ac yn lliwio'r cymylau yna'n unig yr edrychir arno. Daw bywyd y Meth-