YSGRIFAU SYR OWEN M. EDWARDS odistiaid yn destun nofelau; gwelir John Elias a'i gynulleidfa ar ryw ganfas anfarwol; bydd ein tonau yn ysbrydoli rhyw Handel newydd; ond y mae yn rhy fuan eto, a diolch am hynny, nid yw ein haul wedi dechrau machlud. Mor gyfangwbl y mae tynged a dull datblygiad cenhedloedd yn llaw Duw! Ni allwn ond sylwi a rhyfeddu. Gwelwn fod cenedl yn newid ac yn ymburo dan ei law, ac eto fod y dynion sydd yn foddion pob newid yn ymgorfforiad uchaf o ysbryd y genedl ei hun,—diwygwyr ac emynwyr pan fo'n ennill ei nerth gwladweinyddion a haneswyr pan fo'n hawlio ei chydnabod, gwŷr y celfau cain pan fo'n heneiddio tua'i hydref. (—O'r Bala i Geneva.)
Owain Glyn Dŵr
NI fedr anghyfiawnder yn unig, ni fedr newyn yn unig, nerthu i ryfel neu godi chwyldroad. Ni fedr y naill ond griddfan, y mae'r llall yn ddall gan wendid. Rhaid cael breuddwyd, gobaith, drychfeddwl,—beth y galwaf y swyn hwnnw sy'n troi griddfan y gorthrymedig yn iaith huawdl ddealladwy, sy'n rhoi tân bywyd yn llygad pwl y newynog, sy'n gwneud i'r meddwl cysglyd a'r bywyd isel wneud gwrhydri, sy'n gwneud gwerin yn un?
Yr oedd y peth byw hwnnw'n barod i groesawu Owain Glyn Dŵr. Dywedai'r bardd y genid pobl eraill dan dylanwad rhyw seren gyffredin,— Mercher goch, Gwener deg, Sadwrn drwm neu Iau ysblennydd; ond yr oedd seren neilltuol wedi tywynnu ar gynlluniau Owen Glyn Dŵr. Beth