bynnag am seren naturiol, yr oedd seren aml ddrychfeddwl byw yn ei arwain yn ei flaen. Un oedd gwlatgarwch, hwn, mae'n ddiamau, dynnai dorf o efrydwyr Rhydychen i ymladd drosto. Un arall oedd cred yn urddas llafur. Tra'r oedd rhai beirdd yn dal i ganu am ogoniant rhyfel ac ysblander llysoedd, canai eraill gân newydd,—cân o glód i'r amaethwr, cân oedd megis emyn i'r aradr. Breuddwydiasai Langlande, ar y bryniau. rhwng Cymru a Lloegr, mai ar ffurf llafurwr, ac yn y cae llafur, y gwelid Crist,—nid mewn eglwys lle gorweddai cerf-ddelwau'r arglwyddi gorthrymus. Ac yng Nghymru cyweiriodd Iolo ei delyn i ganu mawl y llafurwr a'r aradr,—
Nid addas mynnu dioddef,
Nid bywyd, nid bwyd, heb ef;
Ni cheir eithr ond ei weithred,
Aberth Crist, i borthi cred;
Na bywyd,—pam ei beiwn ?—
Pab nac ymherawdr heb hwn,
Na brenin haelwen hoyw—liw,
Na da 'n y byd, na dim byw."
Ac wrth groesawu seren Owain Glyn Dŵr, dymuniad gweddi y bardd uchel—fonedd hwn oedd,—
"Llaw Dduw Ne, gore un gŵr,
Llaw Fair dros bob llafurwr."
Pan gyfarfu Senedd Lloegr yn Chwefror, 1401, yr oedd trefn ryfedd ar y byd. Aflwyddiant ddilynasai'r llywodraeth yn y rhyfeloedd yn yr Alban ac yng Nghymru, a chyda" murmur mawr a thufewnol felldithio y rhoddwyd hawl i'r brenin godi treth newydd. Yr oedd Sawtre,— y gŵr cyntaf losgwyd yn fyw am heresi yn Lloegr, —newydd ddweud wrth fy arglwydd archesgob, gyda llygaid tanbaid, y byddai iaith cenedl