Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddieithr yn dal ei theyrnwialen cyn hir dros wlad Lloegr, a bod y drwg wrth y drws. Ac yn yr adeg honno daeth yswain Cymreig, o'r enw Owain, i erfyn ar y brenin roddi'n ôl iddo diroedd a drawsfeddianesid gan Lord de Grey o Ruthyn, tiroedd oedd yn eiddo i deulu Owain er oesoedd cyn cof. Dadleuodd John Trevor, esgob Llanelwy, drosto, gan ddweud y byddai'n well rhoddi iddo rywbeth tebyg i gyfiawnder, gan y gallai godi cynnwrf mawr yng Nghymru os âi adre'n ddig. Ond ni thyciodd dim yn erbyn Iarll Grey; a dywedodd yr Arglwyddi nad oeddynt hwy'n malio dim yn y Cymry coesnoeth lladronllyd. Dyna eiriau un hanesydd.

Pan welodd Owain na chai gyfiawnder yn erbyn Iarll Grey, penderfynodd apelio at y cleddyf. O'r dechrau y mae'n amlwg ei fod yn wladweinydd medrus. Yr oedd ei gynlluniau'n feiddgar ac yn fawrion, a medrai daflu trem eryraidd ar yr ymrafaelion a'r cynghreiriau oedd yn y gwledydd o'i gwmpas. Y mae ganddo gynllun amlwg yn 1400, cymryd y cestyll yn y Gogledd, yn enwedig Conwy a Chaernarfon, cael byddin o Albanwyr a Gwyddelod i lanio yn yr Abermaw neu Aberdyfi; ymdaith gyda llu anorchfygol drwy'r gororau, ac ymuno â phlaid Rhisiart ddiorseddedig yn Lloegr. Yr oedd pob peth fel pe'n gweithio gydag ef. Dylifai'r Cymry dan ei faner, prysurai'r llafurwyr Cymreig o Loegr yn ôl ato, ymdyrrai myfyrwyr Cymreig Rhydychen, arweinwyr y mynych gwerylon yn y brifysgol honno, i ymladd dan arweinydd mor boblogaidd. Ysgrifennai ceidwad castell Caernarfon at y brenin fod y Cymry'n ymarfogi,"gwerthant eu gwartheg i brynu ceffylau a harnais; a lladrata rhai