Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd. Yn nechrau 1402, ymosododd Owain ar Ruthyn, a llosgodd hi. Yna dechreuodd ddarostwng gororau Powys, a phan gyfarfu fyddin yr Iarll Grey yn nyffryn y Fyrnwy, gorchfygodd ef ac aeth ag ef i garchar. . . .

Gyda 1406 darfu chwerwder y brwydro. Yr oedd pob arwyddion, pe cawsai ond llonydd yn unig, buasai Cymru'n Gymru lwyddiannus a dedwydd dan deyrnwialen Owain Glyn Dŵr, "trwy ras Duw'n Dywysog Cymru."

Ond nid oedd hynny i fod. Erbyn 1407 gwêl Owain Glyn Dŵr fod raid iddo ymladd ei hunan, ac â gelyn cryf. Gwelodd ei gynghreirwyr yn diflannu, y naill ar ôl y llall. Ychydig longau ddeuai o Ffrainc, yr oedd nerth Gogledd Lloegr yn gwanhau. Yn yr haf medrodd y tywysog Harri gyrraedd Aberystwyth, er mai buan yr ail—gymerodd Owain y castell. Ond, gyda llofruddiad Orleans, darfu pob gobaith am gymorth o Ffrainc. Yn 1408, gwnaeth Northumberland ei ymdrech anobeithiol olaf ar faes Bramham Moor. Cymerwyd esgob Bangor yn garcharor. yno, a gwelwyd pen yr hen iarll, yn brydferth oherwydd gwynder ariannaidd y gwallt, yn pydru ar ganllaw Pont Llundain. A chollodd Owain Glyn Dŵr ei gestyll olaf, Llanbedr Pont Stephan, Aberystwyth, a Harlech.

Yr oedd y werin bobl wedi blino ar ryfel. Os oedd eu cyflogau'n uchel a'u bwyd yn rhad,—a deddfau cyflog a phris yn ddi-rym,—ni ellid disgwyl i'r werin aberthu ei chysur a'i llwyddiant er mwyn adran o gredo neu brydyddiaeth gwlatgarwch. Darfu'r gwrthryfel Darfu'r gwrthryfel llafur yng Nghymru fel y darfu yn Lloegr, oherwydd fod y llafurwyr wedi ennill yr hyn oedd arnynt.