Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eisiau. Darfu'r gwrthryfel, a chydag ef diflannodd dau freuddwyd yn eu prydferthwch,— breuddwyd y Lolardiaid am eglwys newydd, a breuddwyd Owain Glyn Dwr am Gymru newydd.

Ond ni chollodd gwerin Cymru ei pharch a'i chariad at ei harweinydd yn nydd ei chyni. Am flynyddoedd bu'n crwydro ymysg ei bobl; ac ni fradychodd ef erioed. Gellir dweud hanes Owain Glyn Dŵr ar bedwar gair, amddiffynnydd. gwerin, ymgorfforiad cenedlgarwch. Ei genedlgarwch a'i paratodd at ei waith; cariad y werin ato, a'i ffydd ynddo, a roddodd nerth iddo yn ôl pob dydd. Tynnodd ysbrydiaeth iddo ei hun o hanes Cymru, gwelodd ogoniant hanner dychmygol ei hen frenhinoedd; y mae ei lythyrau at frenin yr Alban a thywysogion Iwerddon yn llawn adlais breuddwydion efrydydd hanes. Gwelodd werin ei wlad yn ymwingo yn ei chyni, yn dioddef gorthrwm swyddog ac arglwydd; ac wedi cael cipolwg ar fywyd gwell. Rhoddodd uwch gwaith iddi na chrogi stiwardiaid a llosgi rholiau'r faenor, llyfr achau ei chaethiwed. Rhoddodd nôd i'w digofaint dall,—undeb cenedlaethol, a phrifysgol. Ac ni charwyd neb erioed fel y carwyd Owain Glyn Dŵr gan werin Cymru. Mewn hanes y mae. Llywelyn, ond y mae Owain Glyn Dŵr fel pe'n byw gyda'r genedl; ac nid rhyfedd ei fod,—fel Moses ac Arthur a Chalfin,—heb fedd a adwaenir. Canodd y beirdd hiraeth am dano, disgwyliai'r werin ef yn ôl. Tybiai y cyfarfyddai ef eto ar ei llwybr, i'w harwain i ryddid uwch, ac ni fynnai ei fod wedi marw. O Forgannwg ac o Ddyffryn Clwyd codai'r cri,—

Dyro fflam, benadur fflwch,
Draw'n Nulyn drwy anialwch.