ENAID CENEDL Uwchben Glyndyfrdwy, ar y dde wrth fynd i fyny'r afon, y mae llannerch wastad ar gornel greigiog sy'n codi fel grisiau o'r afon i'r mynydd. Yr wyf yn credu y caf fyw i weled cofgolofn i Owain Glyn Dŵr yno, yn sefyll a'i wyneb at fro ddiwyd Maelor obry, a'i gefn at adfeilion Castell Dinas Bran fry. Ei ddydd ef yw heddiw.(—Llynnoedd Llonydd.)
Enaid Cenedl
LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrôdd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ôl.
Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweud fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfedd y criafol eleni (1918). "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn. Y mae chwildroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas siglo, gwane rheolwyr am wledydd newydd a llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a