Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DEWIN.

(Er cof am Syr Owen Edwards.)

Ei fore'n fwyn ar Ferwyn fawr a fu,
E wybu rin y bryniau lle mae'r hud,
A gair nid oedd o drysor hen ei dud
Na chlywai yn y gwynt, na charai'n gu;
O bryd ac ystum, gwrda ynghanol llu,
O ddawn a dysg, ym mysg goreugwyr byd;
Yn graff, yn ffraeth ei air, yn hael ei fryd,
A'i galon yn agored ar bob tu;
A dewin oedd, a wyddai am guddfâu
Clogwyni'r oesoedd yn y pellter glas,
A llwybrau'r maith ganrifoedd, a'u trofâu;
Na werthai goel yn enw rhyw fympwy fas;
A groesai'r gors a'r rhos i'r ogofau
Gan agor dôr ar drysor hen ei dras.
T. GWYNN JONES.

Diflannodd llawer nef a ddaeth i ni
Dros ymyl bryniau'r tir o dro i dro;
Troes côf yn angof; lleisiwyd llawer cri
I hudo'r ifanc i hawddgarach bro.
A safwn heddiw, blant ei Gymru ef,
Yn araf beidio â bod yn ifanc mwy,
Gan syllu'n syn a gweld pob newydd nef
A grewyd inni, 'n cilio megis nwy.
Wrth dybied weithion fynd o'r olaf un
Ar lwyr ddifancoll byth i'r diddim maith,
A'r nos a'r niwl ac uffern fawr ei hun
Yn llyncu'r einioes hyd at ben y daith,
Wynebwn ninnau'n ôl, ac ar y gwynt
Daw'r nef a roes y dewin inni gynt.
T. H. PARRY-WILLIAMS.