Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1

CAROHARDY BEDFORD .

IV. EI WAREDIGAETH RYFEDD O'R CARCHAR.

Tua diwedd ei garchariad, cafodd Bunyan fwynhau llawer o ragorfreintiau. Goddefid iddo fynychu y cyfarfodydd eglwysig yn aml, os nad yn gyson, a phregethau gyda graddau o gyhoeddus rwydd. Yr oedd yr eglwys yn Bedford, i'r hon y perthynai, y pryd hwn heb fugail, a syrthiodd llygaid y bobl yn naturiol ar Bunyan, fel un cymwys i lenwi y swydd hòno. Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd ar y mater, cofnodau y rhai sydd ar gael hyd heddyw, ac y maent yn hynod o ddydd orol. Yr oedd y canlyniad yn dra boddhaol. “Mewn cynnulliad cyflawn o eglwys Bedford, yr 21ain o'r 10fed mis, (Rhagfyr 1671,) ar ol hir geisio Duw trwy weddi, darfu i'r gynulleidfa ag un llais, alw yn mlaen ac apwyntio ein brawd John Bunyan i'r swydd fugeiliol, ac efe, gan dderbyn yr unrhyw , a ymgyflwynodd i wasanaethu Crist a'i eglwys yn y cylch hwn, ac a dderbyniodd gan yr henuriaid ddeheulaw cymdeithas, ar ol bod yn pregethu bymtheng mlynedd.” Dilynwyd y dewisiad difrifol hwn a'r bendithion gwerthfawr o undeb nefolaidd â llwyddiant mawr. Nid oedd efe na dyeithr-ddyn na newyddian yn yr eglwys, ond un ag yr oedd ei bregethau wedi bod yn dderbyniol iawn ganddynt am gyfres o flynyddau.

Tra yr oedd Bunyan yn garcharor am bregethu y newyddion da am iachawdwriaeth, neu, yn

ol baldordd cyfreithiol, ond disynwyr, y dyddiau hyny, “am gynal cyrddfeydd, (conventicles,)” derbyniodd drwydded ei Fawrhydi i bregethu, ac felly i gynal cyrddfeydd. Yr oedd efe yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniodd y cyfryw drwydded. Ond parhaodd y brenin i'w gadw yn ngharchar am bregethu am fwy na chwe mis ar ol rhoi caniatâd fel hyn iddo i wneyd hyny !

Y mae hanes ei ryddhad yn un tra rhyfedd, ac y mae yn ein harwain yn ol, hyd at frwydr Worcester, lle y mae yn debygol fod Bunyan ei hun wedi ymladd, ac o'r hwn le y dihangodd gyda'r ffoedigion eraill o fyddin y brenin, i adael heibio y filwriaeth hòno byth mwyach. Yn y frwydr hon yr oedd y gwerinwyr yn ymladd fel llewod, oblegyd yr oeddynt wedi llidio yn

xviii