Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwnio am wneud gwisgoedd o bapur neu ddeunydd rhad, a gofala'r dosbarth celf am baentio golygfeydd eu hunain. Efallai y gall rhai ysgolion ddarparu orchestra i gynorthwyo.

Nid rhaid wrth ganiatad na thâl am berfformio'r chwaraeon. Cafodd yr awdur bleser mawr wrth fwrw'r gwaith at ei gilydd. Gobeithio y darllenir y chwaraeon gan blant bach Cymru, a'u perfformio yn y modd mwyaf prydferth posibl.

Dylid diolch i'r Parch. Enoch Jones, B.A. (Isylog), am lawer o help a chyfarwyddyd wrth gyfansoddi'r chwaraeon; i'r Mri. Saville a'i Gwmni, a'r Mri. J. Curwen a'i Feibion am ganiatad i argraffu rhai caneuon, a hefyd i Mr. J. L. Rees am gyfansoddi "Santa Clôs" at y gwaith hwn.

D. J. LEWIS JENKINS.
YSGOL LLANGYFELACH,
ABERTAWE.
1928.