Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

YSGRIFENNWYD y chwaraeon bach hyn i blant Llangyfelach i'w perfformio yng nghyngherddau'r ysgol. Bu'r blas a gafodd y plant ar ddysgu pob darn newydd, a boddhad y rhieni o weld eu plant ar y llwyfan, yn ddigon o dâl am yr amser a'r llafur a roddwyd i'r gwaith.

Y mae dysgu plentyn i siarad yn glir ac yn hamddenol yn rhan bwysig o waith ysgol, a gwneir hynny megis heb yn wybod iddynt trwy gyfrwng chwaraeon addas.

Y duedd yn y gorffennol a fu dodi rhy fach o bwys yn yr ysgolion ar ddysgu plentyn i siarad. Yr athro yn siarad y cyfan a'r plentyn yn gorfod eistedd a gwrando. Ond daeth tro ar fyd. Cef- nogir y plentyn, bellach, i siarad, a siarad yn iawn. Y mae'r awyrgylch mewn ysgol dda mor gartrefol nes bod yn well gan y plant ddiwrnod yn yr ysgol na diwrnod o wyliau.

Y nôd yn rhai o'r chwaraeon hyn yw gofalu am waith siarad i bob plentyn yn y dosbarth.

Nid rhaid gwario arian ar olygfeydd na gwisgoedd. Y gwir yw y bydd y plant wrth eu bodd yn darparu pethau angenrheidiol eu hunain. Gofala'r dosbarth