Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fioled: Wel, Brenda, yr ydych i fod yn un ohonom ni. Y mae gennyf lawer o waith i'w wneud heddiw. Dewch gyda mi a dangosaf i chwi beth y gellwch ei wneud.

Brenda: Gwaith! gwaith! A ydych chwi yn gweithio yma?

Fioled (yn gwenu): Gweithio! Ydym, debig iawn! Dyna paham yr ydym mor hapus. Y mae pob un ohonom bob amser yn ddyfal. Fel rheol, yr ydym yn dawnsio wrth weithio. Y mae'r mwynhad o wneuthur daioni yn peri inni ddawnsio.

Brenda: A ydych chwi yn golchi llestri, neu yn golchi'r llawr?

Fioled: O, nac ydym. Nid yw ein gwaith ni mor hawdd.

Brenda: Wel! Beth ydych yn ei wneud?

Fioled: O! ni sydd yn paentio'r blodau ac yn lliwio'r enfys, ac yn arwain yr haul at ddail y coed. Nid oes gennyf amser i ddywedyd rhagor; rhaid i chwi ddod i'n helpu. Yr ydym wedi gwastraffu digon o amser. Gadewch inni fyned ar unwaith neu fe ddigia'r frenhines. Dewch ymlaen.

Brenda: Credais nad oedd y Tylwyth Teg yn gweithio. Ni allaf i baentio'r blodau na lliwio'r