Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enfys, nac arwain yr haul at ddail y coed. Credais mai dawnsio a chwarae yr oeddych trwy'r dydd.

Fioled: O! nid oes gennym amser i chwarae. Dewch, y mae yna rosyn i'w liwio yn ymyl eich hen gartref. Y mae i agor heddiw.

Brenda: Yn agos i'm cartref! O! mi redaf i mewn i weld sut mae mam.

Fioled: O! na, neu ni ddeuwch byth yn ol.

[Y Frenhines yn dawnsio i mewn gyda rhai o'r Tylwyth Teg.]

Y Frenhines: O! Fioled! sut nad ydych yn gweithio? Ymaith â chwi. Rhaid i Brenda eich helpu.

Brenda: O! eich anrhydeddus Frenhines! ni allaf i liwio'r blodau fel Fioled. Ofnaf na byddaf o fawr gwerth yn eich mysg. Gwell yw i mi fynd adref.

Y Frenhines: Credaf innau mai hynny a fydd orau. Ond gobeithio eich bod wedi dysgu rhywbeth yma. Y mae pob un ohonom ni o ryw wasanaeth yn y byd. Y mae rhai ohonom yn gweithio trwy'r dydd: eraill trwy'r nos. (Y Frenhines yn galw'r lleill ati.) Ewch â Brenda adref. Gobeithio y bydd yn ferch dda, ac o help mawr i'w mam.

[Brenda â'i phen i lawr yn mynd adref yng nghwmni'r Tylwyth Teg.]

[LLEN.]