12
Mae'n canu, mae'n gwenu'n dragwyddol,
Mae'n siriol, ddedwyddol deg wêdd,
A'i wisgoedd cyn wyned a'r Eira,
Cadd goncwest ar Angau a'r Bêdd.
Mawr golled i'w anwyl hoff Briod,
Hawdd canfod, rwy'n gwybod, mewn gwir,
Oedd colli'r llarieiddiaf o Ddynion,
Coll hefyd yn Seion 'nawr sydd;
Heddychlon a ffyddlon yn Israel,
Yn dawel, yn isel dda nôd ;
Rhagori a wnaeth yn ei amser, -
Drwg-dymer ni welais erioed;
Caredig, Cariadus gan frodyr,
A phob Dyn, trwy yr gwledydd yn glir,
Duw alwodd ei Blentyn i wledda
Ar Fanna, a'r bara sydd bûr. -
Fe dystiodd, y'nghanol ei glefyd,
A'i adfyd, a'i benyd, a'i boen,
Fod ganddo orphwysfa enedidiol,
Tragwyddol lu Nefol i'w nôl ;
Fe ddaliodd ei arf, yn y frwydyr,
Yn bybur, yn eglur ei nôd,
Ha! Angau, pa le mae dy Golyn ?
Sef Gelyn Dynolddyn erioed,