Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

13

Ha! Uffern, ti gollaist dy afael,
Oh, diolch, yn dawel, i'n Duw !
Rwy'n awr yn preswylio gwlad Nefol,
Ddedwyddol, anfarwol, i fyw -

Gadawodd ei deulu i alaru,
Aeth Ioan i ganu i'r wlad gu,
A'r Delyn, heb elyn, heb alar,
Heb garchar, heb ddaear oer ddu
Heb ofid, heb lid, hen dylodi ;
Ond canu a moli Mab Mair ;
Agorodd y ffordd rhwng y lladron,
Yn brydlon, yn gyson â'r Gair.
Gorphenwyd, agorwyd Nef gaearu,
Yn ddiau i bawb ar a ddêl,
Mae'n galw ar Gloffion, Efryddion,
Dowch atto'n llu mwynion. Amen.


PENILLION

Ar y mesur "Diniweidrwydd", sef, ymddiddan
Rhwng Mrs. Elizabeth Jones, White Leion, Cerrig y Drudion,
a'i phlentyn bach, pan oedd ar ymadael
â'r fuchedd hon.

MARW. Fy anwyl dirion fam un galon,
Boddlona i'r Cyfion Dduw i'm cael,
Yn fy mebyd, i'r Nefoedd hyfryd,
Unig wynfyd i'r rhai gwael ;
Caf fyn'd o gyrraedd pob rhyw elyn,
I ganu ar delyn euraidd dant,