Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14

Haleliwia sain Hosanna,
Yn y wynfa, gyda'r plant ;
Diolchaf it', am edrych arnaf
Pan yn Bacca, bu'm yn byw ;
Cael mynd yn more blodau'm dyddiau
Rhoi'm doniau ar dân i foli Duw.

Byw. Wel mi foddlona'i Dduw'r gorucha'
Dy gael, heb ana', i fyd sydd bur
I gwmni Angylion, gwynion ganoedd
A Merthyron Siriol sydd,
I fysg y plant, yn sanct disorod
A laddodd Herod, byddi di
Yno'n canu yn dawel beraidd,
Byth am aberth Calfari ;
Rwy'n foddlon galon i Frenin Seion
Dy alw'n union atto i'r Nen,
I seinio cân Sanct, Sanct Hosanna,
Haleliwia yn ddilen.

Marw. Ffarwel, fy mrodyr, ffarwel chwiorydd,
Gwres a chynydd, gras i chwi,
I ddilyn llwybrau'r Nefoedd oleu,
Yn eich bore'r goreu'n gu ;
Mae Crist a'i fraich yn estynedig
Dowch at y meddyg, "Iesu mawr"
Mae ef yn barod, -ceisiwch gymod,