Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

15

I roi gollyngdod ar y llawr ;
Dowch i'r dyfroedd bywiol tawel,
Yr Emmanuel, a'i medd.
A Brenin Nefol mawr a'ch twyso,
I gael gorphwyso yng ngwlad yr hedd.

---

Erfyniad am wellhad i'n Duw.

---

Caniad ar Gael yr Adeilad.

---

O, Arglwydd Dduw'r Arglwyddi!
Erglyw, trwy Grist, fy ngweddi,
A'm griddfanau,
Wyt barod, Ior, i faddeu
Mewn myrdd o gyfyngderau
Yn un â'th eiriau;
'Rwyf fi yn dioddef mewn mawr gri
Gan ergyd erwin, i'm Llaw ces bigin,
Tosturia'm Brenin
Rwy'n gofyn mewn mawr gur :
Agorwr geirwon donau,
Rhyddhawr y Dorau dur,
Rho ffydd i gredu nos a dydd
Fod Meddyg diddig, anffaeledig,
Un parod hefyd, yn cynnyg rhyddid rhydd,
Trugaredd i'r aflanaf, a'r duaf yma ar dir,