Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

16

'Does dim nad alli wneuthur,
Fel tystia yr Ysgrythyr,
Yn eglur wiwglod;
Iachaist y Wraig o Gaanan,
A'r Dall gwrandawaist weithian,
Y Duw Mawr Ethol,?
'Rwyf fi yn gofyn genyt ti,
Yn enw Uesu, wrando fy ngweddi,
Er nad wy'n haeddu, rhyglyddu dim yn glir
Ond poenau byth diddarfod,
'Rwy'n gwybod hyn mewn gwir:
Er hyn, mi a edrychaf tua'r Bryn,
Lle bu fy Meichiau mawr yn dioddeu
Gorchfygodd Angau, datododd gloiau'r glyn,
A phardwn i bechadur,
Fe wir gyhoeddir hyn.

Mi fetraf dy addewid,
Sy'n galw heddyw'n hyfryd,
Ar Fŷd o Ddynion,
Iôr parod wyt i faddeu,
Yn sefyll wrth ei drysau,
Os edrychwn;
Yn wir, mae'r gallu ganddo'n glir,
Ar lu y Nefoedd, a physg y moroedd,
A phob arwyddion, a Dynion, nos a dydd.