Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

17

Gogoniant, Moliant mwynlon,
Yn Seion iddo sydd.
Mae'n Ben, i'w Eglwys wiwlys wen,
Nid Pabyddion, na neb o Ddynion,
"Ond Iesu tirion, o'r Pigion ef yw'r Pen;
Coronwn ef â mwyniant byth. Amen.

---

PENILLION.

Pan oeddwn yn byw yn Birkenhead ymhlith Lladron a meddwon a Phabyddion, a bron a digaloni, - cenais fel y canlyn.

--- Ar Mentra Gwen ---

Fy annwyl gyfaill tirion, wiwlon wedd,
Pabeth sy'n blino'th galon, wiwlon wedd
Ai ysgrechiadau'r meddwon?
Neu grefydd wael Pabyddion,
Neu ofnau ymhlith Lladron?
Moes im' gael atteb cyson, wiwlon wedd.
  Nid ofnaf ymhlith y Lladron, coelia fi,
Nag ysgrechiadau'r meddwon, coelia fi,
Ond gofal am fy nheulu, sydd fân ac eisiau eu magu,
A minau yn penwynu,
Rwy'n brudd oblegyd hynny, coelia fi.