Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dyddyn o'r enw Coed y Foel Ucha, yn agos i'r Bala, g?an y Boneddwr clodadwy, sef yr Hybarch, R. W. PRIVE, Esq., Rhiwlas, am y swm o £48 y flwyddyn. Wedi bod yn talu y rhent uchod am flwyddyn, gostyngodd prisiau yr Anifeiliaid yn fawr; aethum innau at y Boneddwra phenill wedi ei wneuthur iddo am ostyngiad ar y Tir. Parodd y Boneddwr i mi ei adrodd iddo, ac felly gwnes. Gwenodd y Boneddwr arnaf, a chymerodd ei Lyfr derbyn ei renti yn ei law, ac ysgrifenodd ei fod wedi gostwng y Rhent o £48 i £31 yn y flwyddyn, a dywedodd wrthyf, ei fod wedi gwneuthur yn foneddigaidd, ac na wyddai beth i wneyd yn ychwaneg, oni chymerai lwy, a rhoi bwyd yn fy ngheg. Ond ow! er fy ngholled, ni allaf ei phrisio, ni arosais yno ond pedair blynedd. -Felly hyderaf y bydd y llinellau hyn yn rhybudd i bawb sydd yn perchen eiddo, i ymwneud eu goreu i fyn'd dan Foneddigion, yn lle bod fel fi, wedi cael lle i fyw, yn symud, a myn'd tan wael bethau sydd wedi prynu Tiroedd ag arian pobl eraill.

Yr ail beth, gofalwch rhag myned at wyr y Cwils; mi fu'm i yn y Siop hono, yn chwareu fy nghardiau yn Sesiwn Rhuthyn