Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

D. S. a Deis oedd y trwmp, i chware arno. Codais inau nhri Cardyn, a gwelwn fod yr As Deis, a'r Brenin Deis, a'r Frenhines Deis genyf. - Ac felly, yn enw pob daioni, meddyliais nad oedd iws i neb chware yn fy erbyn. Ond gadawaf i'r Darllenydd ddyfeisio pa sut y trechwyd fi hefo 3 Chardyn hyn, - sef dau lygad Clocs, tri llygad spread -a'r Cna Clocs. -Fellygofaled pawb sydd yn perchen eiddo am adael Siop Gwŷr y Cwils, ar y llaw chwith, rhag ofn myned fel fi. -"A myned yn y diwedd, ar ol cadw swn, fel yr oen bach rhwng y Cigfrain a'r Cŵn." -ond, garedig ffryndiau, ofer i mi mwy nac eraill o'm blaen yw disgwyl peidio cael fy nghablu, canys felly y gwnaed ag Enwogion yn mhob oes o'r byd wrth fyn'd trwyddo. -Cablai yr Atheniaid y Simonides am siarad gromod, -chwarddai y Rhufeiniaid am ben Julius Sesar, am nad oedd wedi ei wregysu yn iawn. -Felly gwirionedd y'w, nad oes neb mor bur, na fedr Cynfigen gael rhyw beth ynddo i'w feio; gan hynny, heb ei fai, heb ei Eni. -Mae yr oes bresenol yn beio ar waith ardderchog