Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
6
Mr. ROBERT DAVIES, Nantglyn, a'i gyffelyb, heb ystyried fod yn eu maesydd eu hunain le i Gamelod lechu, pe gwelid eu chwyn. Felly, gan dalfyru fy ymadrodd gyda dymuniad Calon i bob un gael ei ddwyn i oleuni yr Efengyl, megis ag y mae yn Nghrist Iesu. -
Hynnaws ddarllenyddion, yr eiddoch oll, ac oll yn eiddoch.
GABREIL PARRY
Bryn Bras, Tachwedd 14 1854.
Llusgwyd fi'n an'wyllysgar - i'r gafael,
Er gofid a galar;
Ni ches hoen o achos bâr
Blys Esau a Belsassar.
Lluniwyd amryw gynllwynion, - direswm,
Er d'rysu f'amcanion;
A go dost fu'r gau dystion,
Gwarthus waith, pe bai gwerth son.