Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
TECEL, &c. --- Pennill i ddymuno llwyddiant i'r Efengyl --- Ar 'God Save the Queen' ---
Efengyl sydd yn dangos gwerth,
A ymddangosodd yn y berth,
I Moses Bur,
Ymddangosodd yma'n awr,
I holl drigolion daear lawr,
Ei gwawr, a'i gwedd,
Aed ei sŵn i bob lle,
I bob ardal tan y Nê',
I'r Gorllewin, Dwyrain, De,
A'r Gogledd doed,
Haleliwia, am hawl i'r Loes
Fawr ei grym fu ar y groes,
Haleliwia, i'r Hwn a'i rhoes -
Yn oes i ni. T.E.
---
Etto ar yr un mesur, sef fy Nymuniad i'n Grasusaf Frenhines Victoria, yn y dyddiau ofnadwy hyn,
Llwydd i Victoria, 'n awr,
Y Fanon, dirion, deg ei gwawr,
Hir, oes heb gel,