Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TEITHIAU A HELYNTION

Meurig Ebrill, gyda "Diliau Meirion."

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAGBAROTOADAU yr hen Fardd wrth gychwyn i'r daith gyntaf gyda "Diliau Meirion":—

'Rwyf weithian yn arfaethu,—mewn dwnad
Myn'd unwaith o Gymru,
I Loegr lân, at liwgar lu,
O hen geraint wy'n garu.

Mae'n werth i mi ymnerthu,—a myned
I'w manwl ddosbarthu,
Rhwng cyfeillion, ceinion, cu,
Pur anwyl, a wna'u prynu.

Er gwaeth, neu er gwell, o dref Ddolgellau,
Allan o berygl, dydd llun y borau,
Yn ol fy sclawg, frydiawg fwriadau,
Cerddaf, nid oedaf, heb ddim newidiadau,
Yr ddilys ŵron i Ddol-y-serau;
Gwnaf gadw 'n fanylaidd gyda fy "Niliau,"
Pur odiaeth ddarpariadau,—i'r daith hon
A wneis yn dirion, drwy anhawsderau.

Cyrhaeddas i Ddolyserau erbyn dau o'r gloch y boreu, aethum at yr ystablau ar ffrwst, a gwelwa Mr. Hugh Lewis, y Pedrolfenwr, a'r gweision ereill, yn prysur wisgo'y gêr am y meirch porthianus, saith o honynt mewn rhifedi, cyffelyb o ran nerth a maintioli i'r elephantiaid, i'm tyb i. Ym mhen ychydig fynudau cychwynwyd hwynt at y Bedrol fen fawr dromlwythog oedd yn aros dan warchodaeth y ci mawr, gerllaw y brif-ffordd, ac wedi eu bachu wrthi, a helpio yr hen Feurig i'r gwely esmwyth oedd wedi ei barotoi iddo dan y gysgodlen, ac i'r gyrwr campus gydio yn ei fflangell, ar un ysgydwad iddi wele y meirch yn dechreu carlamu fel hyddod gwylltion, nes oedd tân yn gwreichioni o'r cerrig eu traed; yna cyfansoddais yr englynion canlynol:—