45 Er cael odiaeth waredigaeth O'u hir fariaeth a'u barferion: Cafwyd banerawg, wirfoddawg fyddin O filwyr nerthol, breiniol y brenin, Rhyfelwyr clodfawr, Cieisawr iesin, A chadfridogiaid, debriaid dibrin, Gwyr o ddiadlam, hen gawraidd Edlin; Boneddion hylwydd, gwiwrwydd, a gwerin, Gorfyddwyd, trechwyd mewn trin-y Gwylliaid Grymus ysgythiaid, a'u gormes gethin. Cadarn farnwr cu odiaeth, Heb orn yn ddewr, i'w barnu ddaeth, Ar yr ynfyd wyr anferth, Rhoddodd gadarn, golifarn gerth. Mewn iaith bendant, heb walliant, yu bwyllog, A geiriau manwl, treiddgar, a miniog, Y Barwn Owain, a'u bwriai'n euog Ormesiaid ciaidd, llychwinaidd, chweiniog, Llu o afrwyddion fradwyr llofruddiog, Barbariaid glythion, gwehilion halog, Crychion ysbeilwyr crachog,-drygionus Genawon gwydus, ail i gwa gwaedog. Crogwyd cant dan warantau,-i'w gorfod O gerfydd eu gyddfau; Ac yn ffosydd, corsydá cau, I'r hen faeddod rho'en' feddau. Ffodd rhyw haid o'r Gwylliaid gau I'w ffaidd ddrewllyd ffauau Ger llaw'r ffordd, fel gosgordd gas O daerion fleiddiau diras. Ymguddio yno enyd, Mewn llidiog, afrywiog fryd; A wnaeth y gweilch annethawl, Sef gweision digllon y diawl, - Sighed by Google