44 O'u tyllau hwy aent allan--yn ffrostus, Gwnaent ffrystiawl gyflafan; Gan geisio rheibio i'w rhan Oludoedd Mawddwy lydan. Segurwyr gwancus awyddus oeddynt, Dreigiau anheilwng, drwg iawn eu helynt; Ellyllon eiddig oll, ell o naddynt; G'lanastra faidd, noethaidd, a wnaethynt; Llywio a baeddu'a mhob lle y byddynt; Y gwartheg gorau'n ddegau a ddygynt, A'r diadellau o'r marau mynynt; Teir, gwyddau, byddod, a bychod bachynt, A diogel eu dygynt,-i'w sarphaidd Byrth hainrudd i ymborthi arnynt. Och ynfydion trawsion trwch,-rheibiedig Deulu amsiddig a dilonyddweb. Ysgarthion, poerion pob pau, A chwyddog ddrwg fucheddau; Gwedi bod mewn gwyd a bar, Yn eu hagwedd anhygar. Yn difa fel rhyw bla blwng, Dybeullyd a diollwng; Gelynol fu'r galanas A wnaethynt fel corwynt câs, Nes oedd y wlad bron suddaw Gan uthrol ddifrifol fraw. Ond drwg mewn helynt rhy-gas Y ceidw diawl ei wydiawl was; Felly rhai'n, darwain wnai dydd Du hynod eu dihenydd; Ha'r cigyddion! budron, bas, Iddynt daeth diwedd addas. Rhoi hysbysiaeth a gwybodaeth, I'r llywodraeth, wnaed o'r lladron; Digitized by Google ( i