Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dy nerth sy'n fwy anferthol,—na dreigiau
Dirwygus tanbeidiol;
Dyfais a grym y diafol,
Noeth deyrn erch nith dry yn ol.

Tania'n well, a dôs bellach,—heb oedi,
Yn bedwar cyflymach,
I ben y daith, pe bai feithach,
A gâd ni i gyd yn iach.

Ond i fod yn fyr, yn mhen ychydig o fynudiau ar ol hyn, dyma'r holl Beiriant mawr yn sefyll yn llonydd ar unwaith; yna gofynais i ryw sais oedd yn y caban, yn mha le yr oeddym, atebodd fi yn garedig "We are now at Birkenhead Station, and we must make haste to get out, and run, that we may be in time for the next Packet for Liverpool," yna dechreuais hwylio fy holl daclau allan, a ffordd a fi ar ol y dorf drwy ryw borth cyfyng, a gwelwn bawb yn rhoi dwy geiniog ar ryw fwrdd bychan, wrth fyned trwodd, fel pe buasant yn offrwm i'r person wrth gladdu y marw; ond cefais wybod wedi hyny mai tal i'r Packet ydoedd, am ein cludo i Lynlleifiad. Beth bynag aethum i lawr gynta gallwn at y Packet, a'm holl gydau mawr gyda mi, fel Dic Aberdaron. Yr oedd erbyn hyn yn dywell nos, a phan aethum ar fwrdd y Packet cefais hyd i ryw drwnk, ac eisteddais arno, gan fachu yn ofalus yn fy ysgrepan, a'r cydau oedd genyf yn dal y "Diliau," rhag ofn i ryw ladron diffaeth eu lladrata oddi arnaf, ond yn mhen ychydig dyma ryw sais neu wyddel brych yn dechreu llefaru yn awdurdodol dros ben wrthyf yn saesoneg, fel hyn, 'rwyf yn meddwl, "Move from there, old Welshman, for I want that Trunk taken away", yna yr atebais inau yn oreu ac y medrwn fel hyn, "I do not know where to move among a lot of Blackguards like these", ond yn y fan dyma y Packet wedi cyrhaedd at y Pierhead, a'r holl dorf oedd ar ei bwrdd yn brysio am y cyntaf i fyned i'r lan, ond sefais i yn llonydd yn fy lle, nes yr aeth pawb allan o honi, ond y dwylo oedd yn perthyn iddi yn unig, yna dechreuais innau wynebu tua'r lan, ond nis gwyddwyn yn y byd pa le i fyned, gan fy mod yn hollol ddieithr yn Llynlleifiad; ond fel yr oedd yr hap yn oreu, gyda fy mod yn